Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Awdurdod Sylfaenol

Gall pob busnes elwa bellach o Awdurdod Sylfaenol. Mae'r bartneriaeth hon yn gontract rhwng Cyngor Abertawe a'ch busnes i roi cyngor a chefnogaeth barhaus ar gyfer meysydd rheoleiddio penodol sy'n berthnasol i'ch busnes.

Gallwch ddibynnu ar y cyngor y byddwch yn ei dderbyn gan Gyngor Abertawe, a bod yn sicr mai barn arbenigol ydyw sy'n berthnasol ledled y DU. Dan y cynllun hwn, ni all rheolyddion eraill gymryd camau gorfodi pan fyddwch yn dilyn cyngor penodol a roddir gennym.

Gall partneriaethau dorri costau drwy ddarparu sicrwydd i'ch busnes, lleihau risgiau a bod o gymorth o ran cydymffurfio.

Sefydlwyd y cynllun Awdurdod Sylfaenol (Yn agor ffenestr newydd) o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 ac fe'i gweinyddir gan y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch.

 

Sut bydd hyn yn helpu'ch busnes?

Bydd partneriaeth Awdurdod Sylfaenol yn cyflwyno'r manteision canlynol:

  • Symleiddio prosesau rheoleiddiol drwy ddarparu un pwynt cyswllt.
  • Arbed arian i chi drwy leihau eich costau cydymffurfio.
  • Lleihau eich risg.
  • Gwella safonau.
  • Arwain at lai o arolygiadau, ceisiadau am wybodaeth ac achosion o archwilio'ch busnes yn genedlaethol.
  • Eich helpu i reoli perthnasoedd ag awdurdodau lleol ledled y DU.
  • Lefel o gefnogaeth warantedig gan swyddogion â chymwysterau proffesiynol

 

Ar gyfer pwy mae hwn?

Os yw eich busnes yn masnachu yn Abertawe neu mae ganddo gwmnïau neu ganghennau yn Abertawe, gallwch wneud cais. Er enghraifft:

  • Siopau.
  • Darparwyr gwasanaethau.
  • Cadwyni cenedlaethol.
  • Busnesau lleol.
  • Gweithgynhyrchwyr.
  • Cyfanwerthwyr.
  • Mewnforwyr.

Os ydych yn ansicr a yw Partneriaeth Awdurdod Sylfaenol yn berthnasol i'ch busnes chi, cysylltwch â ni i siarad am gwmpas eich busnes a'r math o fusnes ydyw. Yna gallwn roi'r dewis gorau i chi ar gyfer eich busnes.

 

Meysydd sy'n cael eu cynnwys

Rydym yn gallu darparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer rheoliadau Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae partneriaethau'n cwmpasu'r ystod lawn o reoliadau Safonau Masnach a Hylendid Bwyd. Mae gan eich timau Safonau Masnach a Bwyd arbenigedd mewnol ym mhob maes.

Defnyddiwn arbenigedd swyddogion Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd proffesiynol a chwbl gymwysedig sy'n golygu bod gennym ddigonedd o brofiad yn ogystal ag amrywiaeth eang o sgiliau.

Dyma'r meysydd deddfwriaeth y gall partneriaeth eu cynnwys:

  • gwerthiannau a gyfyngir gan oedran.
  • porthiant amaethyddol/anifeiliaid
  • diogelu defnyddwyr - hawliau defnyddwyr.
  • trwyddedu ffrwydron.
  • masnachu teg.
  • iechyd anifeiliaid fferm.
  • mesureg (pwysau a mesurau).
  • trwyddedu petroliwm.
  • diogelwch cynnyrch.
  • safonau byw gan gynnwys alergenau.
  • hylendid bwyd.

 

Cytunir ar union gynnwys a chwmpas y bartneriaeth i weddu i ofynion pob busnes unigol a bydd yn wahanol ar gyfer pob partneriaeth. Gellir edrych ar y cwmpas hwn ar unrhyw adeg os bydd angen rhagor o gyngor neu faes newydd.                                                                                               

Ffïoedd

Mae ein ffioedd yn talu am gostau cynnal yr Awdurdod Sylfaenol. Bydd yr amser y bydd ei angen yn dibynnu ar faint o gefnogaeth fydd angen ar eich busnes, a fydd yn rhan o'r sgyrsiau cynnar, a chodir yr awrdal isod ar ei gyfer. Mae pob busnes yn wahanol ac felly mae faint o amser y mae ei angen yn amrywio rhwng partneriaethau. Mae opsiynau talu hyblyg ar gael, gan ddibynnu ar anghenion eich busnes, sy'n cynnwys archebion sefydlog neu anfonebu chwarterol.

Rydym hefyd yn codi ffi sefydlu gychwynnol a ffi adnewyddu flynyddol. Mae hyn yn talu am gostau'r canlynol i ni:

  • Sefydlu'r cytundeb Awdurdod Sylfaenol gyda'ch busnes.
  • Cofrestru'r cais gyda'r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch.
  • Gwneud cais am gymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
  • Cynllun gweithredu (os yw'n addas) ac ymweliad ymgyfarwyddo gan eich swyddog Awdurdod Sylfaenol yn ystod o broses ymgeisio.
  • Pob tasg weinyddol arall ar ddechrau'r bartneriaeth ac wrth adolygu'r bartneriaeth yn flynyddol
  • Adolygu'r bartneriaeth yn flynyddol.
Gwasanaeth Awdurdod SylfaenolCostau
Tâl yn ôl yr awr£60.00
Ffi sefydlu wrth gofrestru gyntaf£300.00
Ffi adolygu flynyddol£300.00

Holi am bartneriaeth Awdurdod Sylfaenol

Gallwn ddarparu cyngor ar hylendid bwyd a safonau masnach.
Close Dewis iaith