Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Corfforaethol 2018-22

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn disgrifio gweledigaeth y cyngor ar gyfer Abertawe, ein 6 blaenoriaeth allweddol (yr amcanion lles a'r amcanion gwella) a gwerthoedd ac egwyddorion ein sefydliad a fydd yn sylfaen i gyflwyno'n blaenoriaethau a'n strategaeth gyffredinol.

Diwygiwyd y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2018/22. Mae hyn yn dilyn llunio Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, adolygiad o gynnydd ac asesiad o'r dystiolaeth, gan edrych ar sut rydym yn cau unrhyw flychau ac yn mwyafu ein cyfraniad at yr amcanion lles ymhellach.

Cafodd crynodeb o Ddatganiad Lles y cyngor ei ddiweddaru a'i gynnwys yng Nghynllun Corfforaethol newydd 2018/22.

Sylwer - mae'r cyngor yn parhau â'i Gynllun Corfforaethol pum mlynedd yn 2019/20 yn dilyn adolygiad o'n Hamcanion Lles

Dyma'n blaenoriaethau ar gyfer 2018/22 sy'n cael eu nodi yn ein Cynllun Corfforaethol:

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed ac ecsbloetiaeth
  • Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd
  • Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion
  • Trechu Tlodi- fel bod pob person yn Abertawe'n gallu cyflawni ei botensial
  • Cynnal ac ehangu adnoddau naturiol a bioamrywiaethAbertawe - fel ein bod yn cynnal ac yn ehangu bioamrywiaeth, yn lleihau ein hôl troed carbon, yn gwella'n gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'n hamgylchedd naturiol ac yn hybu iechyd a lles
  • Trawsnewid a Datblygu Cyngor y Dyfodol- fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Mae hyn yn cyflwyno'n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i osod Amcanion Lles ac Amcanion Gwella.

Dengys ein blaenoriaethau gyfraniad y cyngor at saith nod cenedlaethol Cymru a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (y 'Ddeddf') ac maent yn disgrifio sut byddwn yn mwyafu'r cyfraniad hwn at nodau cenedlaethol ac at les cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Abertawe drwy weithio'n unol â'r egwyddorion cynaladwyedd a amlinellir yn y Ddeddf.

Close Dewis iaith