Toglo gwelededd dewislen symudol

Daearyddiaeth

Crynodebl o ddaearyddiaeth ffisegol Dinas a Sir Abertawe.

Mae Dinas a Sir Abertawe'n cynnwys ardal o 379.7 cilometr sgwâr (146.6 milltir sgwâr), bron 2% o arwynebedd tir Cymru.

Mae'r sir yn ymestyn o dwyni Rhosili yn ymyl orllewinol Penrhyn Gwyr i Fryn Cilfái, Cors Crymlyn a llethrau Mynydd Drumau ar y ffin ddwyreiniol gyda Chastell-nedd Port Talbot; ac o Ben y Mwmbwls a Bae Abertawe yn y de i grib Mynydd y Gwair sy'n edrych dros Ddyffryn Aman yn y gogledd.

Mae dau draean o ffin y sir ger y môr - Moryd Burry, Môr Hafren a Bae Abertawe. Afon Llwchwr yw'r ffin ogledd-orllewinol â Sir Gâr gyda ffiniau'r gogledd a'r dwyrain yn cynnwys llawer o fryniau a chymoedd. 

Mae'r brif ardal o ucheldir yng ngogledd y sir sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o gymuned Mawr. Mae'r pwynt uchaf sy'n 374 o fetrau (1215 troedfedd) ym Mhenlle'r Castell ger ffin ogleddol y sir. Ceir ardaloedd o ucheldir hyd at 185 o fetrau (600 troedfedd) ar draws de'r sir sy'n ffurfio bryniau Cilfái, Townhill a Llwynmawr, gan wahanu canol Abertawe o'i maestrefi gogleddol. Ymhellach i'r gorllewin, ucheldir Cefn Bryn yw asgwrn cefn penrhyn Gwyr a Rhosili, Twyni Hardings a Bryn Llanmadog yw rhai o'r prif nodweddion dros 600 troedfedd o uchder.

Y brif afon yw afon Tawe a ddaw i'r sir yng Nghlydach ac mae'n llifo trwy Dreforys a Chwm Tawe Isaf, cyn dod allan i'r dwyrain o ganol y ddinas a mynd i Fae Abertawe dros y morglawdd sy'n gwahanu'r Dociau a'r Ardal Forol. Nid oes llawer o afonydd eraill sydd o'r un maint sylweddol, heblaw am afon Llwchwr a'i isafonydd - y Lliw a'r Llan yng ngogledd-orllewin y sir. 

Gellir rhannu'r ddinas a'r sir yn fras i bedair ardal gorfforol: gweundiroedd agored ucheldiroedd Lliw i'r gogledd; Penrhyn gwledig Gwyr yn y gorllewin, sy'n cynnwys sawl pentref gwledig, arfordiroedd cyferbyniol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwyr (AoHNE); yr ardal faestrefol sy'n ymestyn o ymyl Abertawe i aneddiadau yn y gorllewin a gerllaw coridor yr M4; a'r stribed arfordirol o gwmpas Bae Abertawe, nad yw'n fwy na dwy filltir o led, sy'n cynnwys canol y ddinas a chanolfannau rhanbarthol cyfagos.

Mae ardal drefol y ddinas a'r sir wedi'i chanolbwyntio'n bennaf yn Abertawe ac mae'n ymledu i orllewin a gogledd canol y ddinas - o amgylch Bae Abertawe i'r Mwmbwls; dros Townhill i Gwmbwrla, Treboeth, Fforestfach a Phenlan; trwy Uplands, Sgeti, Cilâ a Dyfnant; heibio cymunedau Cwm Tawe, Hafod, Glandwr, Plasmarl, Treforys ac i Glydach; ac ar ochr ddwyreiniol yr afon o St. Thomas i Fonymaen, Llansamlet a Gellifedw.

Mae'r ail ardal drefol wedi'i chanolbwyntio'n nhrefi bach Gorseinon a Llwchwr yng ngogledd-orllewin y sir, ynghyd â chymunedau cyfagos Tregwyr, Penllergaer, Llangyfelach a Phontarddulais.

Mae ystadegau dosbarthiad trefol-wledig swyddogol yn awgrymu bod oddeutu 69.5% o arwynebedd y sir yn drefol a bod 30.5% yn wledig, er bod 88% o breswylwyr Abertawe'n byw mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn drefol a 12% yn unig sy'n byw mewn ardaloedd gwledig (amcangyfrifon Cyfrifiad 2011).

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2022