Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Awst

Bikes at Rhossili.

Grwnan a gwibio: taith dywys gwenyn ac Ieir bach yr haf

1 Awst, 10.00am - 12.00pm ac 1.00pm - 3.00pm

Cwrdd y tu allan i Forte's, Mumbles Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4JT
What3words ///fields.sobered.sharpens

Ymunwch â'r entomolegydd Liam Olds am daith dywys ar hyd y clogwyni arfordirol trawiadol rhwng Limeslade a Rotherslade i chwilio am wenyn ac ieir bach yr haf. Dewch i ddarganfod yr amrywiaeth gyfoethog o beillwyr sy'n ffynnu yn y cynefin hwn sy'n llawn blodau gwyllt, ac i ddysgu sut mae'r rhywogaethau hyn yn gwneud cyfraniad hollbwysig at ecosystemau arfordirol. Dyma daith berffaith os ydych yn dwlu ar fywyd gwyllt ac yn awyddus i ddarganfod mwy am y pryfed carismatig hyn mewn lleoliad glan môr ysblennydd.

Rhaid cadw lle: https://www.trybooking.com/uk/events/landing/85837?

Gweithdy codi waliau sych deuddydd (Rhosili)

5 - 6 Awst, 9.30am - 4.00pm
9 - 10 Awst, 9.30am - 4.00pm 

Maes Parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhosili, Rhosili, Abertawe SA3 1PL

Mae waliau sychion yn rhan bwysig o dirwedd penrhyn Gŵyr ac maent wedi bod ers milenia.

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai lle byddwn yn dysgu rhagor am bwysigrwydd waliau sychion ym mhenrhyn Gŵyr a sut i'w hadeiladu.

Gallwn weithio yn ôl galluedd unigolion, ond mae angen i unigolion allu codi cerrig o lefel y tir i uchder ysgwydd. Cynhelir bob gweithdy dros ddeuddydd.

  • Mae parcio am ddim ar gael - siaradwch ag aelod o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y diwrnod i dderbyn eich tocyn am ddim
  • Darperir te/coffi a bisgedi. Dewch â'ch cinio eich hun
  • Dillad - argymhellir eich bod yn gwisgo llawer o haenau (gan gynnwys dillad dwrglos) er mwyn cadw'n gynnes os yw'n oer, a chadw'n oer pan fydd yr haul yn tywynnu
  • Darperir menig gwaith, ond mae'n rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan ddod â'u hesgidiau/bŵts blaen dur eu hunain wrth godi waliau

Rhaid cadw lle (am ddim): https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/e-bevlpv

Saffari Glan Môr - Porth Einon

11 Awst, 12.30pm 

Cwrdd ger y llithrfa, Porth Einon, Abertawe SA3 1NN

Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr difyr ym mhenrhyn Gŵyr sy'n addas i'r teulu cyfan! Gallwch ddarganfod y bywyd gwyllt diddorol sy'n byw rhwng y llanw wrth i ni archwilio pyllau creigiau, glannau tywodlyd a holltau cudd ar hyd yr arfordir.

Dan arweiniad biolegwyr morol arbenigol, mae'r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddysgu am grancod, anemonïau môr, sêr môr, gwymon a mwy. Bydd cyfle i chi gael profiad ymarferol wrth i chi roi cynnig ar adnabod gwahanol rywogaethau a deall sut maen nhw'n goroesi yn yr amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Galwch heibio i ddarganfod rhyfeddodau arfordir godidog Gŵyr. Mae gan bob llanw stori - beth fyddwch chi'n ei ddarganfod?

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. 
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
  • Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgramblo ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded yn ogystal ag eli haul a het haul

Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/1415833639529?aff=oddtdtcreator

Gweithdy codi waliau sych deuddydd (Overton Mere)

12 - 13 Awst, 9.30am - 4.00pm 

Maes Parcio Porth Einon (maes parcio'r Cyngor), Terminws Porth Einon, Porth Einon, Abertawe SA3 1NN

Mae waliau sychion yn rhan bwysig o dirwedd penrhyn Gŵyr ac maent wedi bod ers milenia.

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai lle byddwn yn dysgu rhagor am bwysigrwydd waliau sychion ym mhenrhyn Gŵyr a sut i'w hadeiladu.

Gallwn weithio yn ôl galluedd unigolion, ond mae angen i unigolion allu codi cerrig o lefel y tir i uchder ysgwydd. Cynhelir bob gweithdy dros ddeuddydd.

  • Parcio am ddim ar gael ar gyfer archebion a wneir erbyn 3 Awst - rhowch ragor o wybodaeth wrth archebu tocyn
  • Darperir te/coffi a bisgedi. Dewch â'ch cinio eich hun
  • Dillad - argymhellir eich bod yn gwisgo llawer o haenau (gan gynnwys dillad dwrglos) er mwyn cadw'n gynnes os yw'n oer, a chadw'n oer pan fydd yr haul yn tywynnu
  • Darperir menig gwaith, ond mae'n rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan ddod â'u hesgidiau/bŵts blaen dur eu hunain wrth godi waliau

Rhaid cadw lle (am ddim): https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-jzgejqy

Saffari Glan Môr ar Bier y Mwmbwls

13 Awst, 2.00pm

Cwrdd wrth ymyl y grisiau sy'n mynd i lawr i'r traeth, i'r chwith o fynedfa'r pier. Mumbles Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4EN

Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr ar lannau creigiog Pier y Mwmbwls dan arweiniad dau fiolegydd morol arbenigol!

Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio'r bywyd morol anhygoel sydd ar hyd arfordir Cymru - gan chwilio am grancod gwych, sêr môr prydferth, pysgod diddorol a gwlithod môr prin a lliwgar o bosib. 

Bydd gennych gyfle i ddod yn wyddonydd morol am y diwrnod, gan ein helpu i gofnodi ein darganfyddiadau a chyfrannu at brosiectau gwyddoniaeth go iawn i ddinasyddion.

Bydd yn berffaith i bobl chwilfrydig o bob oedran - dewch i ddarganfod rhyfeddodau cudd ein harfordir! 

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
  • Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgramblo ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded yn ogystal ag eli haul a het haul

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-lnqvjzy

Pryfed penigamp: taith dywys

17 Awst, 10.00am - 12.00pm ac 1.00pm - 3.00pm

Cwrdd y tu allan i Ganolfan Gymunedol Parc Llewelyn, Trewyddfa Terrace, Treforys, Abertawe SA6 8PB
What3words ///mash.motion.snows

Ymunwch â'r entomolegydd Liam Olds am daith dywys ym Mharc Llewelyn i ddarganfod y pryfed anhygoel sy'n byw yn y man gwyrdd amrywiol hwn. O gacwn a gwenyn unig i ieir bach yr haf, gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd, pryfed hofran, chwilod, ceiliogod rhedyn, criciaid a mwy, mae'r daith gerdded hon yn cynnig cyfle gwych i arsylwi ar y creaduriaid hynod ddifyr hyn a dysgu mwy amdanynt.

Rhaid cadw lle: https://www.trybooking.com/uk/events/landing/85843?

Saffari Glan Môr - Bae Bracelet

23 Awst, 12.00pm 

Cwrdd yn y maes parcio wrth ymyl y grisiau sy'n mynd i lawr i'r traeth. Bae Bracelet, Mumbles Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4EN

Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr difyr ym mhenrhyn Gŵyr sy'n addas i'r teulu cyfan! Gallwch ddarganfod y bywyd gwyllt diddorol sy'n byw rhwng y llanw wrth i ni archwilio pyllau creigiau, glannau tywodlyd a holltau cudd ar hyd yr arfordir.

Dan arweiniad biolegwyr morol arbenigol, mae'r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddysgu am grancod, anemonïau môr, sêr môr, gwymon a mwy. Bydd cyfle i chi gael profiad ymarferol wrth i chi roi cynnig ar adnabod gwahanol rywogaethau a deall sut maen nhw'n goroesi yn yr amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Galwch heibio i ddarganfod rhyfeddodau arfordir godidog Gŵyr. Mae gan bob llanw stori - beth fyddwch chi'n ei ddarganfod?

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. 
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
  • Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgramblo ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded yn ogystal ag eli haul a het haul

Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/1415847912219?aff=oddtdtcreator

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mehefin 2025