Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Gorffennaf

Oxwich Bay with signpost.

Diwrnod tasgau cadwraeth

2 Gorffennaf, 10.00am - 2.00pm

Cwrdd y tu allan i Ganolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell SA3 3BN

Helpwch i warchod Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob! Ymunwch â ni'r gwanwyn hwn am ddiwrnod rheoli cynefinoedd ymarferol, wrth i ni gael gwared ar rywogaethau goresgynnol ac adfer cydbwysedd naturiol.

Dewch i fwynhau'r awyr iach, dysgu am fywyd gwyllt lleol a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd!

  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
  • Darperir yr holl gyfarpar
  • Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-pqrpqzm

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yng Nghlydach

3 Gorffennaf, 8.30pm

Cwrdd ar Park Road, Clydach, Abertawe SA6 5LT
What3words: ///sugars.lollipop.noise

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â'r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul).

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd
  • Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Gwefan y prosiect: https://www.gowerbirds.org.uk/saving-swanseas-swifts/

I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yn Nhreforys

4 Gorffennaf, 8.30pm 

Cwrdd wrth y fynedfa i Barc Treforys ar Park Lodge Road, Treforys, Abertawe SA6 6DL
What3words: ///quest.orders.bump 

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â'r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul).

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd
  • Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Gwefan y prosiect: https://www.gowerbirds.org.uk/saving-swanseas-swifts/

I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com

Gweithdy codi waliau sych deuddydd (Mhwll Du)

7 - 8 Gorffennaf, 9.30am - 4.00pm 

Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Southgate, Abertawe SA3 2AN

Mae waliau sychion yn rhan bwysig o dirwedd penrhyn Gŵyr ac maent wedi bod ers milenia.

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai lle byddwn yn dysgu rhagor am bwysigrwydd waliau sychion ym mhenrhyn Gŵyr a sut i'w hadeiladu.

Gallwn weithio yn ôl galluedd unigolion, ond mae angen i unigolion allu codi cerrig o lefel y tir i uchder ysgwydd. Cynhelir bob gweithdy dros ddeuddydd.

  • Darperir te/coffi a bisgedi. Dewch â'ch cinio eich hun
  • Dillad - argymhellir eich bod yn gwisgo llawer o haenau (gan gynnwys dillad dwrglos) er mwyn cadw'n gynnes os yw'n oer, a chadw'n oer pan fydd yr haul yn tywynnu
  • Darperir menig gwaith, ond mae'n rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan ddod â'u hesgidiau/bŵts blaen dur eu hunain wrth godi waliau

Rhaid cadw lle (am ddim): https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/dry-stonewalling-workshop-pwll-du/e-bevjxl

Bywyd cudd sborion pwll go: taith gerdded bioamrywiaeth

11 Gorffennaf, 10.00am - 12.00pm ac 1.00pm - 3.00pm

Cwrdd ger trac pwmpio Melin Mynach, Pontarddulais Road, Gorseinon, Abertawe SA4 4FQ
What3words: //crispier.ignites.salary

Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt annisgwyl Parc Melin Mynach ar daith dywys dan arweiniad yr entomolegydd Liam Olds. Cewch gyfle i archwilio sut mae byd natur wedi dychwelyd i'r safle hwn lle bu pwll glo, gan greu lloches unigryw i rywogaethau prin ac arbenigol. Dysgwch am werth ecolegol cynefinoedd ôl-ddiwydiannol a'r creaduriaid di-asgwrn-cefn, y planhigion a'r bywyd gwyllt diddorol arall sydd bellach wedi ymgartrefu ynddynt. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a hanes lleol.

Rhaid cadw lle: https://www.trybooking.com/uk/events/landing/85833?

Cyfrinachau'r lan

12 Gorffennaf, 10.00am

Mumbles Road, Blackpill (ar y glaswellt ger y lido), Abertawe SA3 5AS

Dewch i archwilio rhyfeddodau cudd y draethlin gyda ni! Wrth i'r llanw cilio fydd yn gadael cliwiau diddorol am y bywyd morol dirgel sy'n byw yn nyfroedd dwfn Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.

Dan arweiniad biolegwyr môr profiadol fyddwch yn ymgymryd â rôl gwyddonydd môr am y diwrnod ac yn chwilio am wyau ystifflog, pyrsiau'r fôr-forwyn, gwymon lliwgar ac amrywiaeth o gregyn môr prydferth. Ar hyd y ffordd byddwn hefyd yn archwilio microblastigau a'u heffaith bosib ar fywyd gwyllt lleol.

Caiff yr holl ganfyddiadau eu cofnodi a'u cyflwyno i brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion cenedlaethol gan ein helpu i ddeall ein hamgylchedd morol yn well. 

P'un a ydych chi'n chwilfrydig am fywyd y môr neu'n frwdfrydig dros amddiffyn ein moroedd, dyma'r digwyddiad perffaith ar gyfer pobl o bob oedran felly dewch i ymdrochi ym myd natur! 

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes yn ogystal ag eli haul a het haul

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-ojgzrne

Gweithdy codi waliau sych deuddydd (Rhosili)

17 - 18 Gorffennaf, 9.30am - 4.00pm 

Maes Parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhosili, Rhosili, Abertawe SA3 1PL

Mae waliau sychion yn rhan bwysig o dirwedd penrhyn Gŵyr ac maent wedi bod ers milenia.

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai lle byddwn yn dysgu rhagor am bwysigrwydd waliau sychion ym mhenrhyn Gŵyr a sut i'w hadeiladu.

Gallwn weithio yn ôl galluedd unigolion, ond mae angen i unigolion allu codi cerrig o lefel y tir i uchder ysgwydd. Cynhelir bob gweithdy dros ddeuddydd. 

  • Mae parcio am ddim ar gael - siaradwch ag aelod o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y diwrnod i dderbyn eich tocyn am ddim
  • Darperir te/coffi a bisgedi. Dewch â'ch cinio eich hun
  • Dillad - argymhellir eich bod yn gwisgo llawer o haenau (gan gynnwys dillad dwrglos) er mwyn cadw'n gynnes os yw'n oer, a chadw'n oer pan fydd yr haul yn tywynnu.
  • Darperir menig gwaith, ond mae'n rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan ddod â'u hesgidiau/bŵts blaen dur eu hunain wrth godi waliau

Rhaid cadw lle (am ddim): https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/e-bevlpv

Daith dywys ystlumod

22 Gorffennaf 8.45pm

Canolfan gymunedol Parc Llewelyn, Trewyddfa Terrace, Treforys, Abertawe SA6 8PB

Dan arweiniad Aaron Davies and Evelyn Gruchala (aelodau Grŵp Ystlumod Morgannwg)

Bydd y noson yn dechrau'r tu mewn gyda chyflwyniad bach i ystlumod ac arddangosiad o sut i ddefnyddio synhwyrydd ystlumod.

Byddwn yn defnyddio synwyryddion ystlumod i ddod o hyd i ystlumod yn yr ardal a'u hadnabod. Mae'r tro hwn yn cynnig cyfle i ddysgu ychydig mwy am y creaduriaid hynod ddiddorol a swil hyn.

  • Dewch â thortsh 
  • Ni ellir gwarantu y byddwn yn gweld ystlumod gan eu bod yn anifeiliaid gwyllt ond croeswch eich bysedd! 
  • Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer y tywydd a'r tir. 
  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. 
  • Mae'r digwyddiad yn addas i blant 8+ oed
  • Yn ddibynnol ar y tywydd

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-krgdman

Saffari Glan Môr - Bae Oxwich

29 Gorffennaf, 2.30pm 

Cwrdd ger y llithrfa, Bae Oxwich, Pen-rhys, Abertawe SA3 1LS

Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr difyr ym mhenrhyn Gŵyr sy'n addas i'r teulu cyfan! Gallwch ddarganfod y bywyd gwyllt diddorol sy'n byw rhwng y llanw wrth i ni archwilio pyllau creigiau, glannau tywodlyd a holltau cudd ar hyd yr arfordir.

Dan arweiniad biolegwyr morol arbenigol, mae'r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddysgu am grancod, anemonïau môr, sêr môr, gwymon a mwy. Bydd cyfle i chi gael profiad ymarferol wrth i chi roi cynnig ar adnabod gwahanol rywogaethau a deall sut maen nhw'n goroesi yn yr amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Galwch heibio i ddarganfod rhyfeddodau arfordir godidog Gŵyr. Mae gan bob llanw stori - beth fyddwch chi'n ei ddarganfod?

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
  • Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgramblo ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded yn ogystal ag eli haul a het haul

Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/1415482228449?aff=oddtdtcreator

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mehefin 2025