Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Hydref

Red leaved tree in autumn

Taith gerdded chwilota am ffyngau

4 Hydref, 10.00am

Man cwrdd: Maes Parcio Ynys Newydd, Derwen Fawr Road, Sgeti, Abertawe SA2 8DU
What3words: ///cases.buck.closed

Ymunwch â menter Nature on Your Doorstep am sesiwn Chwilota am Ffyngau ddiddorol ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffwng y DU!

Dewch i ddarganfod byd dirgel a hudolus ffyngau wrth i ni archwilio cynefin coetir cyfoethog y parc. Gallwch ddysgu sut i adnabod amrywiaeth o rywogaethau ffwng a datgelu eu rôl hanfodol yn ein hecosystemau.

  • Sylwer: Taith gerdded addysgol yw hon, nid digwyddiad chwilota.
  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Mae'r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd
  • Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cadarn sy'n addas ar gyfer y tywydd a'r tir

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-avrzroa

Gweithdy plygu perthi

8 + 9 Hydref, 10.00am - 4.00pm

Tŷ bynciau Hardingsdown Isaf, Llangynydd, Gŵyr, Abertawe SA3 1HT
What3Words: ///trouser.liners.brotherly

Mae plygu perthi'n fwy na chrefft wledig yn unig; mae'n sgil diamser sy'n annog bywyd yn ein tirweddau, gan greu coridorau sy'n llawn bywyd gwyllt yn ein cefn gwlad. Er hynny, mae'r draddodiad werthfawr hon yn diflannu'n gyflym. Ymunwch â ni i ddysgu mwy a chadw'r sgil yn fyw.

Yn y gweithdy deuddydd hwn, byddwn yn trafod y pethau sylfaenol, gan gynnwys dulliau rhanbarthol gwahanol a phwrpas plygu perthi, a byddwn yn cael profiad ymarferol gyda'r offer.

  • Dewch ag esgidiau cadarn, haenau cynnes (nid eich dillad gorau oherwydd gallant fynd yn frwnt), dillad dwrglos a menig gwaith os oes gennych rai!
  • Dewch â chinio pecyn a diod (darperir te a bisgedi)
  • Mae'r digwyddiad yn addas i blant 18+ oed

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/two-day-hedgelaying-workshop/2025-10-08/10:00/t-avrojkl

Taith gerdded biofflworoleuol

10 Hydref, 7.00pm

Man cwrdd: Heol Glan-nant, Ynysforgan Woods, Abertawe SA6 6QE
What3Words: ///local.casino.losses

Ymunwch â ni am antur arbennig wrth i ni archwilio'r byd biofflworoleuol disglair!

Mae biofflworoleuedd yn ffenomen naturiol ddiddorol lle bydd organebau penodol yn amsugno golau ac yn ei allyrru fel lliwiau llachar. Byddwn yn archwilio hud y sioe oleuadau cudd hon ym myd natur ac yn darganfod pa greaduriaid sy'n dod yn fyw yng ngolau uwchfioled.

Arweinir y digwyddiad hwn gan y fenter Nature on Your Doorstep.

  • Mae'n addas ar gyfer unrhyw un 8+ oed neu'n hŷn ac mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. 
  • Dylech wisgo dillad cynnes oherwydd byddwn yn cerdded yn araf. 
  • Rydym yn argymell esgidiau cadarn (mae esgidiau cerdded yn ddelfrydol ond bydd esgidiau rhedeg yn ddigonol) a throwsus hir i osgoi danadl poethion. 
  • Byddwn yn darparu sbectol diogelwch ac mae'n rhaid i chi eu gwisgo drwy gydol y daith er diogelwch. 

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-dvyrryv

Adar mudol y gaeaf - archwilio Moryd Llwchwr

12 Hydref, 10.00am

Man cwrdd: Man Agored Blaendraeth Casllwchwr (maes parcio), Parc Glan y Môr, 3 Gwynfe Road, Casllwchwr, Abertawe SA4 6TA

Ymunwch â'r ymgyrch Nature on Your Doorstep ar gyfer taith gerdded Adar Mudol y Gaeaf ar hyd moryd drawiadol Llwchwr.

Wrth i'r gaeaf ddod, daw'r foryd yn arhosfan hanfodol ac yn fan gaeafu ar gyfer amrywiaeth o adar mudol. Cewch ddarganfod pa rywogaethau sy'n gwneud eu taith dymhorol i'r cynefin cyfoethog hwn, dysgu sut i'w hadnabod a chael gwybod pam y mae'r foryd hon mor bwysig i adar yn ystod y misoedd oerach.

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Mae'r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd
  • Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cadarn sy'n addas ar gyfer y tywydd a'r tir

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-zzeyydr

Taith gerdded biofflworoleuol

17 Hydref, 7.00pm

Cwrdd wrth fynedfa Parc Coed Bach ar Coed Bach Road, Pontarddulais, Abertawe, SA4 8LG
What 3 words: ///themes.decanter.destined

Ymunwch â ni am antur arbennig wrth i ni archwilio'r byd biofflworoleuol disglair!

Mae biofflworoleuedd yn ffenomen naturiol ddiddorol lle bydd organebau penodol yn amsugno golau ac yn ei allyrru fel lliwiau llachar. Byddwn yn archwilio hud y sioe oleuadau cudd hon ym myd natur ac yn darganfod pa greaduriaid sy'n dod yn fyw yng ngolau uwchfioled.

Arweinir y digwyddiad hwn gan y fenter Nature on Your Doorstep.

  • Mae'n addas ar gyfer unrhyw un 8+ oed neu'n hŷn ac mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
  • Dylech wisgo dillad cynnes oherwydd byddwn yn cerdded yn araf
  • Rydym yn argymell esgidiau cadarn (mae esgidiau cerdded yn ddelfrydol ond bydd esgidiau rhedeg yn ddigonol) a throwsus hir i osgoi danadl poethion
  • Byddwn yn darparu sbectol diogelwch ac mae'n rhaid i chi eu gwisgo drwy gydol y daith er diogelwch

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-vvlagvx

Hela ffyngau

18 Hydref, 10.00am - 12.00pm

Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Caswell, Abertawe, SA3 3BN
What3words: ///shampoos.arch.browsers

Cyfle i ddysgu popeth yr oeddech chi am ei wybod am fadarch gwyllt.

  • Dewch â basged gasglu neu gynhwysydd Tupperware
  • Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer y tywydd a'r tir
  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd 

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-yarlnzo

Gweithdy plygu perthi

20 + 21 Hydref, 10.00am - 4.00pm

Tŷ bynciau Hardingsdown Isaf, Llangynydd, Gŵyr, Abertawe SA3 1HT
What3Words: ///trouser.liners.brotherly

Mae plygu perthi'n fwy na chrefft wledig yn unig; mae'n sgil diamser sy'n annog bywyd yn ein tirweddau, gan greu coridorau sy'n llawn bywyd gwyllt yn ein cefn gwlad. Er hynny, mae'r draddodiad werthfawr hon yn diflannu'n gyflym. Ymunwch â ni i ddysgu mwy a chadw'r sgil yn fyw.

Yn y gweithdy deuddydd hwn, byddwn yn trafod y pethau sylfaenol, gan gynnwys dulliau rhanbarthol gwahanol a phwrpas plygu perthi, a byddwn yn cael profiad ymarferol gyda'r offer.

  • Dewch ag esgidiau cadarn, haenau cynnes (nid eich dillad gorau oherwydd gallant fynd yn frwnt), dillad dwrglos a menig gwaith os oes gennych rai!
  • Dewch â chinio pecyn a diod (darperir te a bisgedi)
  • Mae'r digwyddiad yn addas i blant 18+ oed

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/two-day-hedgelaying-workshop/2025-10-20/10:00/t-nolzagq

Saffari glan môr ar Bier y Mwmbwls

25 Hydref, 1.30pm - 3.30pm 

Cwrdd wrth ymyl y grisiau sy'n mynd i lawr i'r traeth, i'r chwith o fynedfa'r pier, Mumbles Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4EN

Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr ar lannau creigiog Pier y Mwmbwls dan arweiniad dau fiolegydd morol arbenigol.

Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio'r bywyd morol anhygoel sydd ar hyd arfordir Cymru - gan chwilio am grancod gwych, sêr môr prydferth, pysgod diddorol a gwlithod môr prin a lliwgar o bosib.

Bydd gennych gyfle i ddod yn wyddonydd morol am y diwrnod, gan ein helpu i gofnodi ein darganfyddiadau a chyfrannu at brosiectau gwyddoniaeth go iawn i ddinasyddion.

Bydd yn berffaith i bobl chwilfrydig o bob oedran - dewch i ddarganfod rhyfeddodau cudd ein harfordir.

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
  • Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgrafangu ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded

Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/seashore-safari-mumbles-pier-tickets-1705660569679?aff=oddtdtcreator

Diwrnod tasgau cadwraeth

29 Hydref, 10.00am - 2.00pm 

Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Newton, Abertawe, SA3 3BN
What3words: ///shampoos.arch.browsers

Ymunwch â ni yng Ngwarchodfa Natur Leol hardd Coed yr Esgob i helpu gydag ambell dasg rheoli cynefin.

Byddwn yn cael gwared ar rai rhywogaethau anfrodorol a goresgynnol er mwyn caniatáu i rywogaethau eraill ffynnu. Dewch i fwynhau'r awyr iach, dysgu am fywyd gwyllt lleol a gwneud gwahaniaeth go iawn. Does dim angen profiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd.

  • Darperir te a bisgedi
  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir a rhai nad oes ots gennych eu bod eu mynd yn frwnt
  • Darperir yr holl gyfarpar
  • Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-ganoojk

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Medi 2025