Digwyddiadau amgylcheddol - Medi

Saffari Glan Môr - Bae Oxwich
6 Medi, 10.30am
Cwrdd ger y llithrfa. Bae Oxwich, Pen-rhys, Abertawe SA3 1LS
Ymunwch â ni am Saffari Glan Môr difyr ym mhenrhyn Gŵyr sy'n addas i'r teulu cyfan! Gallwch ddarganfod y bywyd gwyllt diddorol sy'n byw rhwng y llanw wrth i ni archwilio pyllau creigiau, glannau tywodlyd a holltau cudd ar hyd yr arfordir.
Dan arweiniad biolegwyr morol arbenigol, mae'r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddysgu am grancod, anemonïau môr, sêr môr, gwymon a mwy. Bydd cyfle i chi gael profiad ymarferol wrth i chi roi cynnig ar adnabod gwahanol rywogaethau a deall sut maen nhw'n goroesi yn yr amgylchedd sy'n newid yn barhaus.
Galwch heibio i ddarganfod rhyfeddodau arfordir godidog Gŵyr. Mae gan bob llanw stori - beth fyddwch chi'n ei ddarganfod?
- Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
- Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes
- Gwisgwch esgidiau â gafael sy'n addas ar gyfer sgramblo ar hyd y glannau creigiog, esgidiau glaw neu esgidiau cerdded yn ogystal ag eli haul a het haul
Rhaid cadw lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/1415859356449?aff=oddtdtcreator
Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.