Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Mehefin

Three Cliffs Bay

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yn Sgeti

23 Mehefin, 8.30pm

Cwrdd ar gornel Glanmor Road a Sketty Avenue, Sgeti, Abertawe SA2 0UA 

What3words: ///baked.blues.bright

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â'r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul).

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd
  • Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Gwefan y prosiect: https://www.gowerbirds.org.uk/saving-swanseas-swifts/

I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yn Nhregŵyr 

26 Mehefin, 8.30pm 

Cwrdd y tu allan i Llyfrgell Tregŵyr, 3 Mansel Street, Tregŵyr, Abertawe SA4 3BU

What3words: ///desire.sand.cubes 

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â'r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul).

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd
  • Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Gwefan y prosiect: https://www.gowerbirds.org.uk/saving-swanseas-swifts/

I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com

Cyfrinachau'r tywod: taith gerdded i ddarganfod creaduriaid di-asgwrn-cefn

28 Mehefin, 10.00am - 12.00pm ac 1.00pm - 3.00pm

Cwrdd y tu allan i'r toiledau ym Mhorth Einon, Abertawe SA3 1NN
What3Words ///refrain.survive.stretcher

Ymunwch â'r entomolegydd Liam Olds am daith dywys hynod ddifyr i archwilio byd cudd creaduriaid di-asgwrn-cefn yn nhwyni tywod Porth Einon.  Dewch i ddarganfod y rhywogaethau unigryw sy'n ffynnu yn y cynefin prin a deinamig hwn, dysgu am eu pwysigrwydd a meithrin dealltwriaeth arbenigol o gadwraeth y creaduriaid hyn sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu. Dyma gyfle perffaith i bobl o bob oedran sy'n dwlu ar natur gael profiad uniongyrchol o fywyd gwyllt y twyni.

Rhaid cadw lle: https://www.trybooking.com/uk/events/landing/85827


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mai 2025