Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Rhagfyr

Caswell roundhouse in the snow

Hyfforddiant arolwg dyfrgwn

14 Rhagfyr, 10.00am - 3.30pm 

Coed Cwm Penllergare, Y Ganolfan Goetir, Penlle'r-gaer, Abertawe SA4 9GS
What3Words: ///peanut.often.into

Mae Canolfan y Coetir oddi ar yr A48 ger bwyty Lezzett; byddwch yn gweld troad oddi ar y ffordd gyda wal cerrig a gât haearn ddu. Dyma'r fynedfa.

Rydym yn cynnal arolwg dyfrgwn newydd yn Abertawe ochr yn ochr â'r Arolwg Cenedlaethol Dyfrgwn ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i ddod o hyd i arwyddion o ddyfrgwn a'u cofnodi!

Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer unigolion sy'n fodlon ac yn gallu ymrwymo i arolygon rheolaidd a monitro darn dynodedig o gwrs dŵr yn Abertawe.

Bydd y diwrnod hyfforddiant yn cynnwys cyflwyniad dan do, ac yna sesiwn yn yr awyr agored (os yw'r tywydd yn caniatáu).

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys: Ecoleg dyfrgwn Ewrasiaidd, tueddiadau poblogaeth, adnabod olion cyffredin, deddfwriaeth berthnasol a chyflwyno eich cofnodion.

  • Darperir te/coffi, dewch â chinio gyda chi
  • Yn amodol ar y tywydd
  • Gwisgwch esgidiau dwrglos neu esgidiau glaw a dillad awyr agored cynnes sy'n addas ar gyfer y tywydd
  • Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
  • Gellir parcio am ddim o gwmpas Canolfan y Coetir (argymhellir rhannu ceir)
  • Dyddiadau wrth gefn rhag ofn bod tywydd garw: 19 ac 20 Rhagfyr

Mae'r arolygon yn fyr ac rydym yn gobeithio y gellir eu cynnwys fel rhan o'ch troeon lleol, gydag un arolwg yn ofynnol ym mhob safle bob mis.

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/otter-survey-training/2025-12-14/10:00/t-xdmvznv

Gwneud torch nadolig

14 Rhagfyr, 10.00am - 12.30pm 

Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell Bay Road, Newton, Abertawe, SA3 3BN
What3words: ///shampoos.arch.browsers

Dewch i fwynhau hwyl yr ŵyl yn ystod bore hyfryd o wneud torchau! Gallwch fwynhau te neu goffi a mins-peis ac ymgolli yn awyrgylch yr ŵyl gyda cherddoriaeth Nadoligaidd.

  • Ar gyfer pobl 16 oed ac yn hŷn yn unig (oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch)
  • Mae lleoedd parcio ar gael ger y ganolfan (arian parod yn unig) / Maes parcio Bae Caswell arian parod a cherdyn) - mae ffïoedd parcio arferol yn berthnasol
  • Gwisgwch ddillad addas a rhai nad oes ots gennych os ydynt yn mynd yn frwnt
  • Darperir yr holl offer

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-aavqnzd

Hyfforddiant arolwg dyfrgwn

16 Rhagfyr, 10.00am - 3.30pm 

Coed Cwm Penllergare, Y Ganolfan Goetir, Penlle'r-gaer, Abertawe SA4 9GS
What3Words: ///peanut.often.into

Mae Canolfan y Coetir oddi ar yr A48 ger bwyty Lezzett; byddwch yn gweld troad oddi ar y ffordd gyda wal cerrig a gât haearn ddu. Dyma'r fynedfa.

Rydym yn cynnal arolwg dyfrgwn newydd yn Abertawe ochr yn ochr â'r Arolwg Cenedlaethol Dyfrgwn ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i ddod o hyd i arwyddion o ddyfrgwn a'u cofnodi!

Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer unigolion sy'n fodlon ac yn gallu ymrwymo i arolygon rheolaidd a monitro darn dynodedig o gwrs dŵr yn Abertawe.

Bydd y diwrnod hyfforddiant yn cynnwys cyflwyniad dan do, ac yna sesiwn yn yr awyr agored (os yw'r tywydd yn caniatáu).

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys: Ecoleg dyfrgwn Ewrasiaidd, tueddiadau poblogaeth, adnabod olion cyffredin, deddfwriaeth berthnasol a chyflwyno eich cofnodion.

  • Darperir te/coffi, dewch â chinio gyda chi
  • Yn amodol ar y tywydd
  • Gwisgwch esgidiau dwrglos neu esgidiau glaw a dillad awyr agored cynnes sy'n addas ar gyfer y tywydd
  • Nid yw'r gweithgarwch hwn yn addas i blant
  • Gellir parcio am ddim o gwmpas Canolfan y Coetir (argymhellir rhannu ceir)
  • Dyddiadau wrth gefn rhag ofn bod tywydd garw: 19 ac 20 Rhagfyr

Mae'r arolygon yn fyr ac rydym yn gobeithio y gellir eu cynnwys fel rhan o'ch troeon lleol, gydag un arolwg yn ofynnol ym mhob safle bob mis.

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-rzplanp

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Rhagfyr 2025