Toglo gwelededd dewislen symudol

Parthau Dim Galw Diwahoddiad

Mae Parthau Dim Galw Diwahoddiad yn helpu i fynd i'r afael â throseddau stepen drws. Gallant atal galwyr diwahoddiad diegwyddor rhag mynd at bobl sy'n byw yn yr ardaloedd. Yn fwy pwysig, gallant roi'r hyder i bobl ddweud "Na".

Er nad yw'r parthau yn gwahardd galwyr diwahoddiad nac yn creu parthau gwahardd, gallant fod yn ddefnyddiol wrth fynd i'r afael ag unrhyw alwyr diwahoddiad.

Ardaloedd dim galw diwahoddiad yn Abertawe
DyfnantGan gynnwys Broadmead SA2 7RJ, Ridgewalk SA2 7AS/AT, Woodcote SA2 7AZ, St Aiden Drive, St David Drive, St Hilary Drive, St Christopher Drive, St Rhydian Drive, Y Berllan, Y Glyn, Y Gorman a Chlôs Lynwood.
ClydachGan gynnwys Parc Kingrosia SA6 5PN a Stryd Pearl SA6 5PU.
GorseinonGan gynnwys Maes yr Efail (llety lloches), 60 o fflatiau SA4 4AE.
PenllergaerGan gynnwys Pentref Tircoed Forest SA4 9QZ.
WaunarlwyddGan gynnwys Ashgrove SA2 7RA, Rhodfa Maple, Rhodfa Laurel, Gellifedw a Rhodfa'r Dderw.
TreforysGan gynnwys Rhodfa Camellia, Heol Rhosyn, Heol y Rhedyn, Heol y Grug, Heol Saffrwm, Heol Eirlys a Heol Miaren.
PenclawddGan gynnwys Maes yr Haf.
MayalsGan gynnwys Radyr Avenue SA3 5DU, Ashburn Drive SA3 5DS, Clôs St Andrews, Llys - Le Breos SA3 5DZ, Owls Lodge Lane SA3 5DP, Southerndown Avenue SA3 5EL, Clôs Birkdale SA3 5EJ.

 

No uninvited traders sign
Dim galwyr digroeso, dim masnachwyr heb wahoddiad

Mae'r hawl gennych i ddweud na wrth fasnachwyr heb wahoddiad a galwyr digroeso. Nod yr ymgyrch 'Eich cartref, eich hawl i ddweud na!' yw rhoi'r hyder i breswylwyr ar draws de Cymru wrthod galwyr digroeso.

Gallwch lawrlwytho sticer drws i ddweud wrth bobl nad ydych yn derbyn masnachwyr heb wahoddiad na galwyr digroeso. Gallwch hefyd ddilyn yr awgrymiadau i helpu i'w gwrthod wrth y drws.

Gallwch ddweud na - gallwch ofyn iddynt adael

  1. Gwiriwch bob un a gwnewch alwad ffôn - os ydych o'r farn bod y person neu'r bobl sydd wrth eich drws yno at ddiben dilys, gofynnwch am brawf adnabod â llun a gwiriwch y manylion gyda'r cwmni mae ef/maen nhw yn ei gynrychioli.
     
  2. Cymerwch eich amser - peidiwch â theimlo eich bod yn cael eich gwthio neu eich rhuthro i gytuno i brynu gwasanaeth neu nwyddau ar garreg eich drws, a pheidiwch â thalu am waith cyn iddo gael ei gwblhau. Y cyfnod canslo ar gyfer prynu nwyddau ar garreg eich drws yw 14 diwrnod calendr ar ôl dosbarthu'r nwyddau neu ddechrau'r gwasanaeth, mae eithriadau ar gyfer cynnyrch unigryw ac atgyweiriadau brys. Os yw'r gwasanaeth yn dechrau ar unwaith, gallwch ganslo o fewn y cyfnod 'ailfeddwl' 14 diwrnod o hyd ond mae'n bosib na fyddwch yn cael ad-daliad llawn. Os na roddir caniatâd i ddechrau gwaith yna nid oes rhaid talu.
     
  3. Rhowch wybod amdano! - Drwy arddangos y sticer drws a ddarperir rydych yn datgan yn glir nad ydych yn dymuno derbyn galwyr digroeso a gall methu gadael ar gais fod yn drosedd. Felly os yw masnachwr heb wahoddiad neu alwr digroeso yn parhau, os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef gweithred dwyllodrus, neu mae galwr carreg drws wedi ymddwyn yn amheus, ffoniwch yr Heddlu ar 101 i fynegi eich pryderon. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Is-adran Safonau Masnach ar 01792 635600.

Close Dewis iaith