Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Diogelu eich hun ac eraill rhag gweithred dwyllodrus

Mae post twyllodrus wedi'i ddylunio i edrych yn swyddogol ac yn ddilys. I helpu i ddiogelu eich hun ac eraill rhag gweithredwyr twyllodrus, mae yna arwyddion adnabod gweithred dwyllodrus y gallwch gadw llygaid amdanynt.

Byddwch yn effro i weithredoedd twyllodrus. Os ydych chi wedi cael cyswllt heb wahoddiad, ystyriwch bob amser y posibilrwydd o weithred dwyllodrus. Cofiwch, os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i'w gredu, mae'n debygol ei fod.

Byddwch yn siŵr â phwy rydych yn ymdrin ag ef. Os nad ydych yn siŵr bod y person neu'r cwmni yn ddilys, yna ymchwiliwch iddynt. Chwiliwch y rhyngrwyd am bobl sydd wedi cael profiad gyda nhw.

Peidiwch ag agor dolenni, e-byst, negeseuon testun, neu ffenestri dros dro amheus. Os ydych yn ansicr, cwblhewch chwiliad ar y rhyngrwyd am wybodaeth. Peidiwch â defnyddio'r manylion cyswllt yn y neges.

Gochelwch rhag unrhyw gais am fanylion personol neu arian. Peidiwch byth ag anfon arian, manylion cerdyn credyd, manylion cyfrif ar-lein, neu fanylion personol, i unrhyw un nad ydych yn ei adnabod neu'n ymddiried ynddo. Peidiwch â chytuno i drosglwyddo arian neu nwyddau ar ran rhywun arall; gwyngalchu arian yw hyn ac mae'n anghyfreithlon.

 

Cofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn (Yn agor ffenestr newydd) atal galwadau ffôn gwerthu a marchnata dieisiau.

Cofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Post (Yn agor ffenestr newydd) i atal post hysbysebu dieisiau.

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi neu aelod o'ch teulu'n derbyn post gweithred dwyllodrus, yna gallwch roi gwybod i'r Post Brenhinol (Yn agor ffenestr newydd) sy'n gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol sydd â'r gallu i ymchwilio a chymryd camau gweithredu.

Close Dewis iaith