
Enwi a rhifo strydoedd
Mae'r cyngor yn gyfrifol am enwi pob ffordd a stryd, ac am enwi a rhifo'r holl eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Ninas a Sir Abertawe.
Gellir ond creu cyfeiriad a derbyn côd post gan y Post Brenhinol ar ôl iddo gael ei enwi a'i rifo'n swyddogol gan y cyngor. Felly os ydych yn cynllunio datblygiad newydd, yn adeiladu eiddo newydd, yn trawsnewid eiddo presennol neu'n dymuno newid enw eich eiddo, rhaid i chi gysylltu â ni ar gyfer creu cyfeiriad neu i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd y cyfeiriad yn gyfeiriad swyddogol a bydd hyn yn arwain at broblemau. Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau dosbarthu neu wasanaethau cyfleustodau yn adnabod y cyfeiriad; ac efallai y ceir anawsterau wrth gofrestru i bleidleisio a dyrannu cardiau credyd. Hefyd, efallai bydd gwasanaethau Ambiwlans, Tân a Heddlu yn cael anhawster dod o hyd i'r cyfeiriad mewn argyfwng.
Dylid hefyd nodi bod gan y cyngor bŵer i orfodi newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiad â chonfensiynau safonol a bod Polisi'r Cyngor ynghylch enwi a rhifo strydoedd yn cael ei gynnal. Mae'n well dweud wrth y cyngor am eich gofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosib.
Mae dogfen Arweiniad a Gweithdrefn Enwi a Rhifo Strydoedd y cyngor ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.
Sut i wneud cais?
Gallwch gyflwyno cais a thalu ar-lein am greu cyfeiriad newydd neu ddiwygio cyfeiriad presennol. Mae ein ffurflenni cais ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Os oes angen help arnoch, ffoniwch ni ar 01792 636588 neu e-bostiwch snn@abertawe.gov.uk.
Ffioedd ar gyfer enwi a rhifo strydoedd
Yn unol â chynghorau eraill yn y DU, rydym yn codi tâl am y gwasanaethau enwi a rhifo eiddo, cysylltu â'r Post Brenhinol wrth ddyrannu codau post, darparu cynlluniau wedi'u rhifo a rhoi gwybod i gyrff a sefydliadau statudol am wybodaeth cyfeiriad newydd.
Ailenwi eiddo presennol
Nid oes angen i chi gyflwyno cais os ydych am ychwanegu enw at eiddo sydd eisoes wedi'i rifo. Fodd bynnag, os ydych yn ychwanegu enw at eiddo wedi'i rifo, mae'n rhaid i chi gofio dyfynnu rhif yr eiddo yn ystod yr holl ohebiaeth.
Enwi a rhifo datblygiad newydd - safleoedd bach
Mae'r ffurflen hon i'w defnyddio ar gyfer enwi a rhifo safleoedd datblygu bach a lle nad oes ffyrdd newydd i'w hadeiladu.
Enwi a rhifo datblygiad newydd - safleoedd mawr
Mae'r ffurflen hon i'w defnyddio ar gyfer enwi a rhifo safleoedd datblygu mawr lle mae ffyrdd newydd i'w hadeiladu. Felly, bydd angen enwau ffyrdd swyddogol. Mae'n rhaid i'r cyngor gymeradwyo enwau ffyrdd newydd.
Enwi a rhifo addasiad eiddo
Dylid defnyddio'r ffurflen hon os oes angen cyfeiriad newydd o ganlyniad i drawsnewid eiddo. Mae hyn yn cynnwys eiddo sydd eisoes wedi'i rannu neu ei gyfuno ac mae'n cynnwys eiddo preswyl, masnachol a diwydiannol.
Newid i Gynllun Datblygiad
Dylid defnyddio'r ffurflen hon os yw cynllun datblygiad i gael ei newid. Cynghorir datblygwyr safleoedd mawr i gynnal gwaith fesul cam ac ystyried llif disgwyliedig rhifo'r eiddo.
Ailenwi stryd ar gais preswylwyr
Gellir defnyddio'r ffurflen hon i ofyn i stryd gael ei hailenwi. Bydd rhaid i o leiaf ddau draean o'r preswylwyr a'r perchnogion roi eu caniatâd cyn y gellir ystyried unrhyw gynigion ailenwi.
Cadarnhau cyfeiriad(au)
Gellir defnyddio'r ffurflen hon i wirio cyfeiriad.