Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffrindiau yn erbyn gweithredoedd twyllodrus

Mae Ffrindiau yn erbyn Gweithredoedd Twyllodrus yn ceisio diogelu ac atal pobl rhag bod yn ddioddefwyr gweithredoedd twyllodrus drwy geisio grymuso cymunedau i... 'Wrthsefyll Gweithredoedd Twyllodrus.'

Friends Against Scams logo
Nod Ffrindiau yn erbyn Gweithredoedd Twyllodrus yw ysbrydoli gweithredu, amlygu maint y broblem, newid y canfyddiadau o ran pam mae pobl yn cael eu twyllo gan weithredoedd twyllodrus a gwneud gweithredoedd twyllodrus yn destun cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Trwy ddod i sesiwn ymwybyddiaeth Ffrindiau yn erbyn Gweithredodd Twyllodrus, neu drwy gwblhau'r dysgu ar-lein, gall unrhyw un ddysgu am y mathau gwahanol o weithredoedd twyllodrus a sut i adnabod a chefnogi dioddefwr. Gyda gwell gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gall pobl wneud gweithredoedd twyllodrus yn rhan o'u trafodaethau bob dydd gyda'u teulu, eu ffrindiau a'u cyfoedion, a fydd yn eu galluogi i amddiffyn eu hunain ac eraill.

Gall unrhyw un fod yn Ffrind yn erbyn Gweithredoedd Twyllodrus a gwneud gwahaniaeth yn eu ffordd eu hunan.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Ffrindiau yn erbyn Gweithredoedd Twyllodrus yn www.friendsagainstscams.org.uk (Yn agor ffenestr newydd).

Gallwch hefyd eu dilyn ar Twitter https://twitter.com/againstscams (Yn agor ffenestr newydd) neu Facebook yn https://www.facebook.com/friendsagainst/ (Yn agor ffenestr newydd).

 

Menter gan Dîm Gweithredoedd Twyllodrus Safonau Masnach Cenedlaethol yw Ffrindiau yn erbyn Gweithredoedd Twyllodrus.

Close Dewis iaith