Ffioedd ar gyfer enwi a rhifo strydoedd
Yn unol â chynghorau eraill yn y DU, rydym yn codi tâl am y gwasanaethau enwi a rhifo eiddo, cysylltu â'r Post Brenhinol wrth ddyrannu codau post, darparu cynlluniau wedi'u rhifo a rhoi gwybod i gyrff a sefydliadau statudol am wybodaeth cyfeiriad newydd.
Mae'r taliadau canlynol yn berthnasol:
- Cadarnhau cyfeiriad (llythyron cyfreithiwr): £50.00
- Cadarnhau cyfeiriadau (safleoedd mawr): £50.00 + £1.00 ar gyfer pob cyfeiriad ychwanegol
- Newid enw tŷ: £50.00
- Enwi a rhifo trawsnewidiadau eiddo: £110.00 + £40.00 ar gyfer pob cyfeiriad ychwanegol
- Enwi neu rifo 1 eiddo newydd: £110.00
- Enwi a Rhifo Datblygiad Newydd (2 neu fwy o eiddo newydd): £110.00 ar gyfer y llain gyntaf a £40.00 ar gyfer pob llain ychwanegol
- Ailrifo datblygiad (ar ôl hysbysiad): £40.00 yr un ar gyfer pob llain yr effeithir arni
- Ailenwi stryd ar gais preswylwyr: £110.00 + £40.00 fesul eiddo yn ogystal â chostau cyfreithiol ac amnewid arwydd enw stryd
Mae'r ffioedd a nodir uchod yn berthnasol i bob cais a wneir o 1 Ebrill 2018. Rhaid cynnwys y tâl am y ffi briodol uchod gyda phob cais enwi a rhifo strydoedd. Gwnewch sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe'.
Mae graddfa'r ffioedd a ddyfynnir uchod hefyd ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho o'r dudalen hon. Sylwer bod rhaid i geisiadau a thaliadau gynnwys y ffi gywir. Bydd ceisiadau a thaliadau anghywir yn cael eu dychwelyd. Ni fydd ceisiadau'n cael eu prosesu nes bod y ffioedd cywir wedi'u derbyn.
Am ragor o wybodaeth neu gymorth, ffoniwch ni ar 01792 637127 neu e-bostiwch snn@abertawe.gov.uk.