Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffyrdd a gaeaf a graeanu

I helpu i wella amodau gyrru, rydym yn graeanu'r ffyrdd pan ddisgwylir i dymheredd arwyneb y ffordd ddisgyn o dan sero gradd a phan fydd y ffordd yn llaith.

 

Cymerwch gip ar y map o'r llwybr graeanu ar gyfer ffyrdd yn Abertawe

Nid ydym yn graeanu'r holl ffyrdd hyn a gall y tywydd wneud ffyrdd yn beryglus hyd yn oed os ydynt wedi cael eu trin. Dylech yrru'n ofalus mewn amodau gaeafol bob amser. Ble bynnag y bo'n bosib, cadwch at y llwybrau sydd wedi'u graeanu. 

Adrodd am eira neu iâ ar y ffordd / palmant ar-lein Adrodd am eira neu iâ ar y ffordd / palmant ar-lein

Gwneud cais i ail-lenwi bin graean ar-lein Gwneud cais i ail-lenwi bin graean ar-lein


Cwestiynau cyffredin am raeanu

Sut rydym yn graenu?

Rhwng mis Tachwedd a mis Ebrill rydym yn darparu gwasanaeth arbennig 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i ymateb i dywydd gaeafol sy'n effeithio ar y ffyrdd. Rydym yn monitro gwybodaeth am dywydd er mwyn penderfynu pryd i raeanu'r ffyrdd. Rydym yn graenu'r ffyrdd pan ddisgwylir i dymheredd arwyneb y ffordd ddisgyn yn is na sero a phan ddisgwylir amodau llaith. Fel arfer, bydd y graenu yn cael ei wneud ar ôl oriau brig traffig gyda'r hwyr neu cyn oriau prysur y bore.

Ar ôl gwneud penderfyniad, bydd yr holl ffyrdd yn cael eu graeanu o fewn 4 awr.

Sut mae'r cyngor yn penderfynu pryd i raeanu?

Rydym yn derbyn adroddiadau tywydd am 1.00pm bob dydd. Rydym yna'n trefnu unrhyw raeanu ar gyfer y noson honno. Bydd unrhyw adroddiad tywydd pellach yn helpu i benderfynu a fydd y graeanu a drefnwyd yn digwydd neu beidio. Mae hefyd gennym dair gorsaf dywydd sy'n monitro tymheredd arwyneb y ffordd. Mae'r system hon yn monitro gwir amodau'r ffyrdd gan ddangos tymheredd y ffordd a'r aer, cyflymder y gwynt a'r "gwlithbwynt" a chyfanswm y graean ar arwyneb y ffordd.

Mae'r system hon yn sicrhau ein bod yn gallu mesur faint o raean sy'n cael ei ddefnyddio a sicrhau nad ydym yn defnyddio gormod. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd gall un noson o raeanu gostio cymaint ag £8,000.

A ydych chi'n graeanu pob ffordd?

Nac ydym. Rydym yn graenu 480km (45%) o'r ffyrdd yn y sir. Mae'r llwybrau'n seiliedig ar y math o ffordd a'i phwysigrwydd wrth gadw traffig i symud ar rwydwaith y priffyrdd.  Mae pob prif ffordd yn cael ei thrin, yn ogystal â ffyrdd lleol pwysig megis y rhai sy'n gwasanaethu canolfannau diwydiannol neu siopau, y rhai sy'n rhoi mynediad i adrannau argyfyngau a damweiniau ysbytai neu'r rhai sydd ar brif lwybrau bysus. Mae ffyrdd cysylltu a ffyrdd â llifau mawr o draffig yn cael eu blaenoriaethu hefyd. Ychydig iawn o ffyrdd ar ystadau tai sy'n cael eu graeanu, a dim ond y rhai sy'n cysylltu â rhannau eraill o'r rhwydwaith yw'r rhai hynny fel arfer.

Beth am ardaloedd nad ydynt ar lwybrau graeanu?

Ceir cannoedd o finiau graean mewn lleoliadau strategol ledled y sir.Gall y cyhoedd eu defnyddio ar unwaith ar ffyrdd mabwysiedig os oes tywydd garw.Nid yw'r graean yn y biniau i'w ddefnyddio at ddibenion preifat ar ddreifiau preifat etc. a dylid ei ddefnyddio ar y priffyrdd cyhoeddus mabwysiedig yn unig.

Beth am droedffyrdd?

Nid ydym yn gwasgaru halen ar lwybrau cerdded a llwybrau beicio fel arfer.  Ar ôl iddi fwrw eira neu rewi, byddwn yn graenu ardaloedd i gerddwyr yng nghanol y dref, llwybrau cerdded i ysgolion, ysbytai a chartrefi i'r henoed, llwybrau cerdded trefol a chanol tref prysur a llwybrau sydd ar fryniau serth.

Graeanu map llwybr

Graeanu llwybrau yn Abertawe.

Adrodd am eira neu iâ ar y ffordd / palmant ar-lein

Gall eira ac iâ fod yn beryglus ar y ffyrdd a'r palmentydd, felly rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau.

Gwneud cais i ail-lenwi bin graean ar-lein

Rhowch wybod i ni os oes angen ail-lenwi'ch bin graeanu.