Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgymryd â gwaith ar goeden a warchodir

Rhaid cael caniatâd cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar goeden neu goed a warchodir dan Orchymyn Cadw Coed.

Mae hyn yn galluogi cadw coed sy'n bwysig i dref ac i dirwedd a gwneud gwaith o safon uchel arnynt.

Sut i gyflwyno cais

Work to trees subject to a TPO - guidance notes (PDF) [110KB]

Ni chodir ffi am gyflwyno cais gweithio ar goeden. Fodd bynnag, os bydd asiant yn llenwi ffurflen ar eich rhan, gall fod ffi fach i'w thalu am ei amser.

Gall perchennog y goeden, asiant neu gymydog wneud cais i wneud gwaith ar goeden. Os gwneir cais llwyddiannus gan gymydog, yna byddai angen iddo gael caniatâd gan berchennog y goeden i dorri unrhyw ran nad yw'n gorhongian dros ei eiddo.

Eithriadau

Ceir eithriadau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, sy'n caniatáu i berchennog coeden ymgymryd â gwaith penodol heb ganiatâd. Mae hyn yn berthnasol i dorri coed neu rannau o goed sy'n farw neu sydd yn o broses o farw, neu sy'n beryglus. Enghraifft gyffredin fyddai torri pren marw (sef canghennau marw).

Cynghorir i berchennog coeden ofyn am archwiliad gan Swyddog Coed y cyngor cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar goeden a warchodir y mae'n ystyried ei bod yn farw, yn y broses o farw neu'n beryglus, gan roi o leiaf 5 niwrnod o rybudd fel gall y swyddog gadarnhau iechyd y goeden.

Mewn argyfwng neu dros y penwythnos, argymhellir galwad ffôn neu e-bost i'r cyngor, ynghyd â chasglu a chadw tystiolaeth o'r broblem (lluniau/y rhan ddiffygiol o'r goeden, etc). Cyfrifoldeb perchennog y goeden yw darparu tystiolaeth ar gais i Swyddog Coed y cyngor i ddangos yr oedd y goeden wedi marw, yn marw neu'n beryglus er mwyn atal carnau cyfreithiol.

Gall eithriadau eraill gynnwys gwaith gan gwmniau cyfleustodau, coed mewn meysydd awyr, safleoedd amddiffyn neu lle y mae gwaith yn angenrheidiol ar gyfer caniatâd cynllunio llawn (nid amlinellol).

Cosbau

Mae gan y llysoedd y pŵer i roi dirwy i unrhyw un sy'n difrodi coeden a warchodir. Mae'r dirwyon a rhoddir am ddifrodi coeden yn ddiderfyn, a gellir codi dirwy o hyd at £2,500 am waith tocio heb ganiatâd. Os codir arian am waith heb awdurdod, megis cynnydd mewn gwerth eiddo o ganlyniad i ddifrodi coeden i gael gwell olygfa er enghraifft, mae gan y llysoedd y pŵer i roi dirwy sydd cyfwerth ag unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo. Nid yw'n dderbyniol i ddiffynnydd ddadlau ei fod yn anymwybodol bod y goeden wedi'i gwarchod oni bai fod y cyngor ar fai am hyn.

 

Gall fod angen trwydded torri coed er mwyn torri coed mewn coetiroedd, fforestydd ac yng nghefn gwlad yn ehangach hefyd: Trwyddedau torri coed (Cyfoeth Naturiol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith