Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw hawliau tramwy cyhoeddus?

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn llwybrau, fel arfer ar draws tir preifat, y mae hawl gan y cyhoedd deithio drostynt.

O'r 650km (tua 400 o filltiroedd) o hawliau tramwy cyhoeddus yn Ninas a Sir Abertawe, mae bron 515km yn llwybrau cerdded cyhoeddus ac mae tua 136km yn llwybrau ceffyl cyhoeddus.

Gan amlaf, mae'n rhaid i chi ddilyn y llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus, nid oes hawl fynediad gyffredinol i bob tir. Fodd bynnag, mae rhai tiroedd comin a thiroedd agored eraill ar gael i gerddwyr.

Llwybrau cerdded cyhoeddus

Maent wedi'u cyfeirnodi gan saethau melyn.

Gall llwybrau cerdded cyhoeddus gael eu defnyddio gan gerddwyr a phobl sy'n defnyddio cadair olwyn, er nad yw pob llwybr yn hygyrch i bob defnyddiwr. Fel gyda phob hawl tramwy cyhoeddus, cewch fynd â'ch ci, er y bydd angen i chi ei gadw ar dennyn neu dan reolaeth agos. Nid oes hawl defnyddio beic gwthio ar hyd llwybr cerdded cyhoeddus.

Dylech fod yn ofalus i wahaniaethu rhwng 'llwybrau cerdded cyhoeddus' a phalmentydd wrth heolydd cyhoeddus. Ni chofnodir y rhain ar y map diffiniol a gofelir amdanynt gan ein  Tîm Priffyrdd.

Llwybrau ceffyl cyhoeddus

Maent wedi'u cyfeirnodi gan saethau glas.

Mae llwybrau ceffyl cyhoeddus i'w defnyddio gan gerddwyr, marchogion a beicwyr. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion.  

Nid oes dyletswydd ar y tîm Mmnediad i gefn Gwlad i gynnal a chadw llwybrau ceffyl cyhoeddus mewn cyflwr addas i feicwyr. Fodd bynnag, rydym yn ceisio gwella arwyneb llwybrau ceffyl i gyflwr sy'n dderbyniol i bawb.

Cilffyrdd sydd ar Agor i Unrhyw Draffig (BOATs) 

Fel mae'r enw'n awgrymu, mae'r llwybrau hyn - yn aml o'r enw cilffyrdd - i gerddwyr, marchogion, beicwyr a cherbydau - gan gynnwys cerbydau a dynnir gan geffyl, beiciau modur a cherbydau modur eraill. Mae tair cilffordd yn Ninas a Sir Abertawe.

Hawliau cyhoeddus a hawliau preifat

Byddwch yn ofalus i wahaniaethu rhwng Hawliau Tramwy Cyhoeddus a hawliau mynediad preifat. Nid yw'r cyngor yn cadw cofnodion am hawliau mynediad preifat, ffordd-freintiau na hawddfreintiau. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol - dylech geisio'ch cyngor cyfreithiol eich hunan ar y fath faterion.

Mapiau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Gellir dod o hyd i fap ar-lein sy'n dangos yr hawliau tramwy cyhoeddus, yn ogystal â gwybodaeth am sut i weld y Map Diffiniol cyfreithiol swyddogol yn: Map Hawliau Tramwy Cyhoeddus

 

Cwestiynau cyffredin

A yw hawl tramwy cyhoeddus yn peidio â bodoli os na chaiff ei defnyddio?

Nac ydy. Gall hawliau tramwy cyhoeddus gael eu cau trwy orchymyn swyddogol yn unig a wneir gan Ddinas a Sir Abertawe.

Beth caf ei wneud neu fynd ag ef ar hawliau tramwy cyhoeddus?

Cewch wneud pethau sy'n anorfod ar y daith, megis stopio i orffwys, edmygu golygfa, tynnu llun neu fraslun er enghraifft. Hefyd, cewch fynd â phethau sy'n ychwanegiadau arferol. Gall y rhain gynnwys eitemau megis ysgrepanau, ysbienddrychau neu bramiau, cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn lle bo'n ymarferol bosibl, ar yr amod nad yw'r fath eitemau'n achosi difrod neu niwsans i ddefnyddwyr eraill. Nid ystyrir bod beiciau'n ychwanegiad arferol ac ni chaniateir beiciau ar lwybrau cerdded cyhoeddus.

A gaf fynd â'm ci?

Cewch, ar yr amod eich bod yn ei gadw ar dennyn neu dan reolaeth agos mewn ffordd arall ar hawl tramwy cyhoeddus, yn enwedig ar dir â da byw. Byddwch yn ymwybodol bod hawl gan berchnogion tir i saethu ci sy'n aflonyddu da byw.

Beth yw cyfrifoldebau'r tirfeddiannwr?

Mae'n rhaid i dirfeddianwyr sicrhau nad ydynt yn rhwystro hawliau tramwy cyhoeddus sy'n croesi eu tir neu'n achosi niwsans i unrhyw un sy'n eu defnyddio. Yn gyffredinol, mae gan dirfeddianwyr y cyfrifoldeb i gynnal gatiau a chamfeydd mewn cyflwr diogel ar hawliau tramwy cyhoeddus ar draws eu tir. Maent hefyd yn gyfrifol am docio llystyfiant sy'n hongian dros lwybrau a sicrhau nad yw cnydau'n tyfu ar y llwybr neu wrth ei ymyl gan achosi rhwystr. Dylai tirfeddianwyr hefyd ystyried diogelwch y cyhoedd ac ni ddylent gadw unrhyw anifail yr ystyrir ei fod yn beryglus mewn lloc y mae hawl tramwy cyhoeddus yn mynd trwyddo.

Mae llwybr dwi wedi cerdded arno ers llawer o flynyddoedd wedi'i rwystro'n ddiweddar, felly ni allaf ei ddefnyddio mwyach. Beth gallaf ei wneud am hynny?

Efallai nad yw'r llwybr yn hawl tramwy cyhoeddus cofrestredig. Os yw'r llwybr yn hawl tramwy cyhoeddus, mae gan y tîm mynediad i gefn gwlad bwerau i ofyn bod y rhwystr yn cael ei symud.

Os nad yw'r llwybr yn hawl tramwy cyhoeddus, gellir gwneud hawl i'w ychwanegu at y map diffiniol.

Yn y ddau achos, dylid rhoi gwybod i'r tîm mynediad i gefn gwlad am y broblem.

Beth gallaf ei wneud os gwelaf fod y ffordd wedi'i rhwystro?

Gallwch fynd heibio i'r rhwystr trwy gymryd y ffordd fyrraf sy'n bosibl o'i gwmpas. Gallwch hefyd symud digon o'r rhwystr i'ch galluogi i fynd heibio iddo. Fodd bynnag, yn y ddau achos, dylech fod yn ofalus i beidio ag achosi difrod neu gallech fod yn atebol am unrhyw ddifrod a achosir. Y peth gorau i'w wneud yw rhoi gwybod am y broblem i'r tîm mynediad i gefn gwlad os yw'r rhwystr wedi'i achosi gan lystyfiant neu waith dyn.

Beth am gamfeydd a gatiau ar draws hawliau tramwy cyhoeddus?

Mae'n rhaid bod yr holl gamfeydd a gatiau'n ddiogel i'w defnyddio ac mae'n rhaid iddynt beidio ag ymyrryd yn afresymol ar ddefnydd Hawl Tramwy Cyhoeddus. Dylid rhoi gwybod am gamfeydd sydd wedi torri neu'n anodd eu defnyddio a gatiau dan glo i'r tîm mynediad i gefn gwlad fel y gellir cymryd camau priodol.

Yn ychwanegol, os yw camfeydd neu gatiau newydd yn ymddangos ar lwybrau cerdded cyhoeddus neu lwybrau ceffyl, efallai y bydd angen caniatâd ar eu cyfer a dylid rhoi gwybod amdanynt i'r tîm mynediad i gefn gwlad.

Oes modd codi ffens drydanol neu weiren bigog ar draws hawl tramwy cyhoeddus?

Mae ffensys trydanol symudol yn chwarae rhan bwysig mewn ffermio modern. Mae'n rhaid i unrhyw ffens drydanol sy'n croesi hawl tramwy cyhoeddus gael ei hinsiwleiddio fel nad oes perygl y caiff defnyddiwr llwybr sioc. Dylai ffensys trydanol nesaf at hawliau tramwy gael eu labelu'n glir. Mae'n drosedd rhoi weiren bigog ar draws hawl tramwy cyhoeddus. Gallai weiren bigog gyferbyn â llwybr gael ei hystyried yn drosedd os caiff ei gosod yn rhy agos.

Close Dewis iaith