Toglo gwelededd dewislen symudol

Holiadur iechyd gweithwyr

Holiadur meddygol i'w gwblhau gan ddechreuwyr newydd.

Mae'r cwestiynau canlynol wedi'u llunio i'ch annog i ddatgelu gwybodaeth am unrhyw anabledd, problem iechyd neu anawsterau dysgu sydd gennych. Bydd hyn yn ein galluogi i wneud unrhyw addasiadau i'r gweithle a argymhellir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Caiff yr holl wybodaeth a roddir gennych ei thrin yn gwbl gyfrinachol yn unol â'n Polisi Cyfrinachedd gan yr Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol. Rhaid i chi ateb cwestiynau'n gywir a datgelu unrhyw wybodaeth iechyd sy'n ymwneud â'r swydd a gynigiwyd i chi.

Os bydd gweithiwr/ymgeisydd yn gwrthod datgelu gwybodaeth am unrhyw fater sy'n ymwneud ag anabledd posib o dan ddarpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010, ni fyddwn yn atebol am fethu gwneud addasiadau rhesymol neu ymgymryd ag asesiadau perthnasol.

Os nad ydych yn datgelu gwybodaeth a allai amharu ar eich iechyd a'ch diogelwch eich hun neu iechyd a diogelwch rhywun arall, gallech gael eich disgyblu.

Isod ceir y cwestiynau a ofynnir yn yr holiadur iechyd:

  1. Oes gennych chi, neu ydych chi erioed wedi cael, unrhyw broblem iechyd sylweddol, nam/anabledd (corfforol neu feddyliol) neu anawsterau dysgu a all amharu ar eich gallu i gyflawni'r tasgau a nodir yn nisgrifiad swydd y swydd sydd wedi'i chynnig i chi?
  2. Oes gennych chi, neu ydych chi erioed wedi cael, salwch, nam neu anabledd sydd wedi'i achosi neu ei waethygu gan eich gwaith?
  3. Ydych chi erioed wedi gadael cyflogaeth, neu a wrthodwyd cyflogaeth i chi ar sail salwch, neu wedi cael eich diswyddo'n feddygol ar sail salwch?
  4. Ydych chi'n derbyn, neu'n aros am unrhyw driniaeth neu archwiliad meddygol ar hyn o bryd?
  5. A fydd angen unrhyw addasiadau neu gymorth arbennig arnoch er mwyn i chi allu cyflawni'r tasgau a nodir yn nisgrifiad swydd y swydd sydd wedi'i chynnig i chi?

Rwyf am ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau uchod

Rhaid i mi ateb yn gadarnhaol i o leiaf un o'r cwestiynau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Gorffenaf 2021