Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysebu gyda Theatr y Grand

Mae Theatr y Grand yn cynnal mwy na 500 o berfformiadau drwy gydol y flwyddyn, o opera i bantomeim, yn ei phrif awditoriwm ac yn stiwdio Adain y Celfyddyau.

Mae'r atyniad yn denu mwy na 5,000 o ymwelwyr yr wythnos ar gyfartaledd - 260,000 y flwyddyn.

Cynigir y cyfle i gyflwyno neges wedi'i phersonoli 240 o weithiau'r dydd ar fwrdd negeseuon LED electronig y theatr. Mae'r bwrdd hwn ar adeilad Theatr y Grand sy'n wynebu'r maes parcio â 140 o gilfachau, gorsaf fysus Abertawe, siop Tesco y Marina a ffordd brysur iawn Heol Ystumllwynarth.

Yn ogystal â'r bwrdd negeseuon LED, mae'r cyfle hwn yn cynnwys hysbysebu PowerPoint 24 awr ar ddwy sgrîn blasma newydd yng nghyntedd a ffenestr Theatr y Grand.

  • Bydd y cleient yn derbyn 240 o negeseuon LCD y dydd, sef 1,680 o negeseuon yr wythnos (7 niwrnod yr wythnos).
  • Ni ddylai negeseuon LCD gynnwys mwy na 200 o nodau'r un, gan gynnwys lleoliad a rhif ffôn, os yw'n berthnasol.
  • Rhaid rhoi rhybudd 48 awr ymlaen llaw i newid copi.
  • Ar gael yn syth.

O £100 yr wythnos. Mae'r holl brisiau yn destun TAW.

Manteision

  • Y "bri" o gysylltu'r cleient â Theatr y Grand a Chyngor Abertawe.
  • Cynyddu a chynnal ymwybyddiaeth o wybodaeth sy'n ymwneud â'r cynnyrch, etc.
  • Datblygu delwedd eich cwmni gan atgyfnerthu ei enw da a'i hygrededd.
  • O leiaf 240 o negeseuon/prif hysbysebion y dydd ar fwrdd negeseuon LCD.
  • O leiaf 200 o hysbysebion PowerPoint lliw ar sgrîn blasma yn y cyntedd.
  • Cynigir hysbysebu tymor hir i gyd-fynd â'ch cynlluniau hysbysebu.
  • Bydd yr hysbyseb yng ngŵydd 30,000 o gerddwyr a modurwyr bob dydd.

Mae'n rhaid i Gyngor Abertawe gymeradwyo cynnwys y copi cyn ei argraffu. Yn anffodus, nid ydym yn gallu derbyn unrhyw hysbysebu sy'n ymwneud ag alcohol neu dybaco, neu unrhyw beth arall a all wrthdaro â Chyngor Abertawe.