Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Maethu a mabwysiadau

Allech chi roi cartref i blentyn mewn angen?

Mae maethu a mabwysiadu'n ffyrdd gwahanol o ddarparu cartref i blentyn nad yw'n gallu byw gyda'i deulu ei hunan. 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu?

Maethu

Trefniant dros dro a fydd yn dod i ben yw maethu, lle mae teulu arall yn gofalu am blentyn.

Mae sawl math gwahanol o drefniant maethu, tymor hir a thymor byr, i ddiwallu anghenion gwahanol plant yn y system ofal. Fel arfer daw trefniant maethu tymor hir i ben pan fo plentyn yn cyrraedd 18 oed.

Mae gofalwyr maethu'n gwneud penderfyniadau am ofal pob dydd y plentyn ond nid oes ganddynt gyfrifoldeb rhieni am y plentyn sy'n parhau i fod gyda rhieni geni'r plentyn a/neu'r awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn. Gan amlaf, bydd gan y plentyn gysylltiad rheolaidd â'u rhieni.

Mabwysiadu

Ffordd gyfreithiol a pharhaol o ddarparu teulu newydd i blant na allant gael eu magu gan eu rhieni eu hunain yw mabwysiadu.

Unwaith y mae gorchymyn mabwysiadu wedi'i roi, ni ellir ei wrthdroi ac eithrio mewn amgylchiadau hynod brin. Caiff yr holl gyfrifoldeb magu plant ei drosglwyddo i'r mabwysiadwyr ac mae'r plentyn sy'n cael ei fabwysiadu'n colli pob rhwymyn cyfreithiol â'i rieni geni ac yn dod yn aelod llawn o'r teulu newydd, gan gymryd enw'r teulu fel arfer. Mae gan y teulu sy'n mabwysiadu yr un hawliau mewn perthynas â'r plentyn mabwysiedig ag y byddai ganddynt pe bai'r plentyn wedi cael ei eni iddynt. Gan amlaf, caiff plant sydd wedi cael eu mabwysiadu eu hannog i gynnal cysylltiadau â'u rhieni geni, fel arfer trwy lythyrau a ffotograffau.

Mae rhagor o wybodaeth i'w chael drwy ddefnyddio'r ddolen isod: www.westernbayadoption.org (Yn agor ffenestr newydd)

Maethu

Os hoffech wybod mwy am faethu yn Abertawe, siaradwch â ni - ni yw Maethu Cymru Abertawe.