Marchnad Abertawe
Marchnad Abertawe yw'r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru. Mae'n farchnad arobryn, hanesyddol sy'n cynnig profiad siopa unigryw i ymwelwyr a phreswylwyr.
Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 8.00am - 5.00pm
Dydd Sul: ar gau
Mae Marchnad Abertawe ar agor 6 diwrnod yr wythnos, ond gall hyn newid yn ystod gwyliau a chyfnodau prysur.
Mae Marchnad Abertawe ar gau bob dydd Llun gŵyl y banc.
Lle Llesol Abertawe
Yng nghanol y farchnad mae Gardd y Farchnad sy'n darparu ardal ddiogel, gynhwysol a chynnes i bobl eistedd a mwynhau cynnyrch o'r farchnad, neu eistedd a mwynhau'r amgylchoedd. Cynhelir digwyddiadau am ddim yn rheolaidd yng Ngardd y Farchnad.
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
- Teganau i blant
- Dŵr yfed ar gael
- Ardal eistedd gyda byrddau a seddi cyfforddus
- Ardal â sinc ac offer cynhesu poteli babanod
- Digwyddiadau a pherfformiadau rheolaidd
- Marchnad feganaidd fisol
- Lle i wylio'r byd yn mynd heibio mewn awyrgylch diogel, cynhwysol, cynnes a chroesawgar
- Enw
- Marchnad Abertawe
- Cyfeiriad
-
- Stryd Rhydychen
- Abertawe
- SA1 3PQ
- Gwe
- http://www.swanseaindoormarket.co.uk
- E-bost
- marchnadabertawe@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 654296