Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Partneriaeth Bwyd Abertawe

Mae Partneriaeth Bwyd Abertawe (PBA) yn darparu cymorth a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer busnesau bwyd a diod ar draws Abertawe a Gŵyr.

Fe'i ffurfiwyd ym mis Medi 2019 mewn ymateb uniongyrchol i drafodaethau â busnesau bwyd gwledig yn Abertawe ac mae'n canolbwyntio ar weithio i greu cynnig bwyd bywiog a llewyrchus i Abertawe, cryfhau a byrhau cadwyni cyflenwi a gwella twristiaeth fwyd a phontio'r bwlch rhwng bwyd gwledig a threfol. 

Ym mis Chwefror 2020 darparodd y bartneriaeth ddigwyddiad yn Ocean View, Llanrhidian ac roedd 34 o brynwyr ac 14 o gynhyrchwyr yn bresennol. Yn ystod y digwyddiad, nodwyd nifer o feysydd allweddol trwy ymgynghori â busnesau bwyd a thwristiaeth gwledig; ac yn fwy diweddar gyda'r grŵp partneriaeth craidd i ehangu cwmpas y gwaith ar draws Abertawe. Roedd hyn wedi llywio datblygu adran 'hyrwyddo bwyd lleol' yng Nghynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe.

Blaenoriaethau'r bartneriaeth

  • Gwell ymwybyddiaeth o / tuag at y cynnig bwyd / diod leol
  • Gwell canfyddiadau (agweddau tuag at) o fwyd / ddiod leol - yn lleol ac yn ehangach
  • Rhwydweithiau lleol gwell (busnesau i fusnesau a busnesau i ddefnyddwyr)
  • Mwy o fwyd a diod yn cael eu cynhyrchu a'u prynu'n lleol, sy'n golygu:
    • bod y diwydiant bwyd a diod yn defnyddio mwy o gyflenwyr lleol
    • annog cymunedau lleol i fwyta ac yfed mwy o gynnyrch lleol 
  • Gwell isadeiledd i gefnogi busnesau bwyd a diod yn lleol (sy'n canolbwyntio ar fusnesau cychwynnol / bach)

Gweithgarwch PBA

  • Ffurfiwyd PBA ym mis Medi 2019
  • Cyngor Abertawe: danfoniadau a chludfwyd - cyflenwyr bwyd ac eitemau hanfodol yn Abertawe ym mis Mawrth 2020 (ymateb i COVID-19)
  • Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol PBA yn cefnogi busnesau bwyd lleol: Instagram
  • Cyfleoedd i rwydweithio a chyfeirio busnesau i fusnesau
  • Datblygu ceisiadau am gyllid a chynorthwyo gyda hyn
  • Datblygu cyfleoedd masnachol ar brosiectau cyfalaf
  • Cysylltiadau PBA â Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe a Bwyd Abertawe
  • Gwaith datblygu ar gyfleoedd cadwyni cyflenwi 
  • Penodwyd Cydlynydd Bwyd Lleol Datblygu Economaidd newydd ym mis Mawrth 2022. 
  • Helpodd y digwyddiad Made in Swansea, a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn, i gysylltu ffermwyr a gwneuthurwyr bwyd lleol â busnesau bwyd lleol yn Abertawe yn uniongyrchol. 
  • Caniataodd ddigwyddiad Made in Rural Swansea, a gynhaliwyd yn Rasoi Pontlliw, i fusnesau bwyd gwledig gysylltu â'i gilydd. 
  • Cwblhawyd astudiaeth dichonoldeb ar y cyd â'r ymgynghorwyr, Afallen (gweler isod)

Astudiaeth dichonoldeb - mapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi bwyd yn Abertawe

Rydym wedi cwblhau astudiaeth dichonoldeb i fapio cynnyrch lleol a helpu i fyrhau cadwyni cyflenwi yn Abertawe. Rydym wedi gweithio gyda'r ymgynghorwyr Afallen i nodi tueddiadau defnyddwyr presennol a chyflenwi bwyd yn Abertawe. Casglwyd yr ymchwil drwy holiadur helaeth ac astudiaethau achos manwl gyda busnesau bwyd yn Abertawe. Daeth argymhellion i ben gyda mewnbwn gan ymgynghorwyr arbenigol gan gynnwys Urban Foundry a The Open Food Network.

Astudiaeth ddichonoldeb mapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi (PDF) [4MB]

Bydd yr allbynnau'n adeilad fframwaith yn y dyfodol ar gyfer PBA a'r cydlynydd bwyd lleol. Dyfarnwyd cyllid gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU tan fis Mawrth 2025 i barhau â'r rhaglen waith hon. Bydd yr amserlen ar gyfer y gwaith yn cynnwys digwyddiadau a gweithdai rhwydweithio cwrdd â'r cynhyrchydd a chefnogi a datblygu system fwyd leol economaidd gryfach yn Abertawe. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd Abertawe, e-bostiwch: partneriaethbwydabertawe@abertawe.gov.uk