Toglo gwelededd dewislen symudol

Pete Ham

I gofio am y cerddor roc, aelod o'r Iveys a Badfinger

Pete Ham blue plaque
Lleoliad y plac: Wal allanol ger y brif fynedfa - Gorsaf Drenau'r Stryd Fawr

Dyma oedd plac glas cyntaf y cynllun presennol ac fe'i dadorchuddiwyd ar 27 Ebrill 2013 yng Ngorsaf Fysus Stryd Fawr Abertawe. Cafodd ei gysegru i'r cerddor roc Pete Ham (1947-1975) bu farw'n druenus o ifanc. Ganwyd Ham yn Abertawe ac roedd yn un o sefydlwyr y grŵp roc Badfinger a gafodd lwyddiant mawr yn y siartiau ac o ran albymau yn y 1970au cynnar. Caiff ei gofio fwyaf am ysgrifennu "Without You" a gafodd lwyddiant byd-enwog pan gafodd ei recordio gan Harry Nilsson ym 1972.

Gosodwyd y plac y tu allan i Orsaf Drenau'r Stryd Fawr oherwydd ei agosrwydd at Ivey Place sydd yn union gyferbyn â'r lle y byddai'r band yn cwrdd i ymarfer. Cyn iddynt gael eu henwi'n Badfinger, defnyddiodd y band yr enw The Iveys ar ôl y lle hwn.

Close Dewis iaith