Rhybuddion ac adroddiadau am weithredoedd twyllodrus
Os ydych wedi gweld gweithred dwyllodrus yn ddiweddar gallwch roi gwybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallwch hefyd weld y rhybuddion am y weithredoedd twyllodrus diweddaraf.
Byddwn bob amser yn darparu'r rhybuddion diweddaraf wrth i ni eu derbyn, er mwyn i bobl eraill ddiogelu eu hunain. Cofiwch fod gweithredoedd twyllodrus newydd yn ymddangos yn aml, felly nid yw'r ffaith eich bod heb weld rhybudd yn golygu nad yw'n weithred dwyllodrus.
Gallwn gynnig cyngor os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gweithred dwyllodrus ond ni allwn adennill unrhyw arian neu nwyddau i chi.
Byddwn yn cyhoeddi rhybuddion am weithredoedd twyllodrus ar ein tudalen Facebook Safonau Masnach Abertawe (Yn agor ffenestr newydd).
Adrodd am weithred dwyllodrus bosib Adrodd am weithred dwyllodrus bosib
Rydym wedi cael gwybod am negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at aelodau o'r cyhoedd yn awgrymu bod gan y derbynnydd ddirwy parcio nas talwyd ac yna'n gofyn am daliad ar gyfer yr Hysbysiad o Dâl Cosb.
Nid ydym yn anfon negeseuon testun at y cyhoedd mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb ac rydym yn annog unrhyw un sy'n derbyn neges destun o'r fath i'w hanwybyddu, i beidio â chlicio ar unrhyw ddolen yn y neges destun ac i drin y neges fel sgam. Anfonir yr holl ohebiaeth swyddogol mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb drwy e-bost neu lythyr. Byddwch yn wyliadwrus.