Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023/2024

Mae Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch wedi'i ganiatáu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

O fis Ebrill 2023 - newidiadau i'r cynllun

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ehangu'r cynllun am flwyddyn arall OND gyda rhai newidiadau. Mae pwyntiau allweddol y cynllun newydd fel a ganlyn:

  • Mae'r rhyddhad yn parhau i gael ei anelu at gefnogi busnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformiadau, gwestai a neuaddau cymunedol sy'n darparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld.
  • Bydd angen i bob busnes cymwys wneud cais am y rhyddhad - os na wneir cais ni ellir talu'r rhyddhad a bydd y swm llawn yn daladwy.
  • Uchafswm y rhyddhad fydd gostyngiad o 75% oddi ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys, roedd gostyngiad o 50% ar gael ar gyfer 2022/2023.
  • Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar gyfer pob eiddo a feddiannir gan yr un busnes yng Nghymru. Wrth wneud cais am ryddhad, mae'n ofynnol i bob busnes wneud datganiad nad yw swm y rhyddhad y maent yn ei geisio ledled Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn.
  • I fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad, rhaid i'r safle gael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y dibenion cymhwyso.Prawf ar ddefnydd yw hwn yn hytrach na meddiannaeth felly ni fydd eiddo sy'n cael ei feddiannu, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben cymhwyso, yn gymwys ar gyfer y rhyddhad.

Pa fusnesau/sefydliadau nid er elw NAD oes angen iddynt wneud cais am y rhyddhad hwn?

  • Elusennau a sefydliadau nid er elw sy'n derbyn rhyddhad elusennol o 100%.
  • Trethdalwyr sydd â hawl i Gymorth Ardrethi Busnesau Bach 100% ar bob eiddo y maent yn atebol i dalu Ardrethi Annomestig amdano (uchafswm o ddau eiddo mewn unrhyw ardal awdurdod lleol). 

Pa fusnesau/sefydliadau nid er elw sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch y MAE angen iddynt wneud cais am y rhyddhad hwn?

  • Y rheini sy'n meddiannu eiddo na ellir caniatáu rhyddhad arall ar eu cyfer - er enghraifft os yw busnes wedi cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (RABB) ar ddau o'r eiddo y mae'n eu meddiannu, ni fydd yn gymwys i gael RABB ar drydydd eiddo (neu fwy). Felly dylid gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer yr eiddo arall.
  • Dylai elusennau/sefydliadau nid er elw/clybiau chwaraeon sydd fel arall â hawl i lai na 100% o ryddhad ardrethi ar eu heiddo wneud cais am Ryddhad Ardrethu Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar y balans sy'n weddill.

Os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch, e-bostiwch trethibusnes@abertawe.gov.uk a byddwn yn gwirio hyn ar eich rhan.

Pa fusnesau NAD ydynt yn gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn?

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i gynghorau ar weithredu'r cynllun hwn sy'n nodi'n fras y mathau o ddefnyddiau nad yw Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn ddefnydd manwerthu, hamdden neu letygarwch ac na fyddent yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y rhyddhad. Nid yw'r canllawiau'n darparu rhestr hollgynhwysfawr felly efallai na fydd eiddo tebyg o ran eu natur i'r rheini a grybwyllwyd yn gymwys i gael rhyddhad dan y cynllun.

Gellir dod o hyd i'r canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023-24 (Busnes Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen i bob busnes cymwys wneud cais gan ddefnyddio'n ffurflen ar-lein.

I wneud cais, bydd angen eich bod wedi creu Cyfrif Abertawe. Efallai eich bod eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cyfrif os ydych wedi gwneud cais o'r blaen am grantiau busnes blaenorol neu wasanaethau eraill y cyngor. Os nad oes gennych Gyfrif Abertawe, bydd angen i chi greu un ar ddechrau'r broses ymgeisio.

Ar ôl i chi greu eich cyfrif Abertawe a/neu fewngofnodi, fe welwch restr o benawdau ar ochr chwith y sgrîn. Dewiswch Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023/24. 

Bydd angen cyfeirnod eich cyfrif Ardrethi Busnes i wneud cais. Dangosir hyn ar eich bil.

Gwnewch gais yn awr am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023/24 Gwnewch gais yn awr am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023/24

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod eich cais wedi'i dderbyn.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn penderfynu:

  • A yw eich busnes yn gymwys ar gyfer y rhyddhad - byddwn yn eich e-bostio i roi gwybod i chi a bydd y rhyddhad yn cael ei gymhwyso i'ch cyfrif ardrethi.
  • Os nad yw'ch busnes yn gymwys - byddwn yn eich e-bostio i roi gwybod i chi ac yn esbonio ein rheswm dros ein penderfyniad.
  • Os bydd angen rhagor o wybodaeth/dystiolaeth er mwyn gwneud penderfyniad - byddwn yn eich e-bostio i ofyn am yr hyn sydd ei angen arnom.

Sut i dalu'r Ardrethu Busnes sy'n ddyledus

Mae llawer o fusnesau yn Abertawe'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol am ei fod yn ddull cyfleus a hawdd i'w ddefnyddio.

Er mwyn sefydlu Debyd Uniongyrchol gallwch lenwi a dychwelyd:  Ffurflen Debyd Uniongyrchol ardrethi busnes (PDF) [109KB]

Os nad oes gennych argraffydd, e-bostiwch ni (trethibusnes@abertawe.gov.uk) a byddwn yn anfon ffurflen atoch.

Gwybodaeth am ffyrdd eraill o dalu: Talu'ch trethi busnes

Close Dewis iaith