Talu Ardrethi Busnes
Mae sawl ffordd o dalu ardrethi busnes. Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu.
Talu trwy ddebyd uniongyrchol
Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon fel rhan o'n rhwymedigaeth o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 & Deddf Llywodraeth Leol 2003. Defnyddir eich gwybodaeth i'n helpu i gyflawni ein rhwymedigaeth gyfreithiol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Esbonnir hyn yn fanylach ar-lein yn: Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol er mwyn i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol yn: Hysbysiad preifatrwydd.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol newydd neu newid Debyd Uniongyrchol presennol (Yn agor ffenestr newydd)
Cymerir taliadau ar ddiwrnod cyntaf y mis.
Talu ar-lein
Talu ardrethi busnes ar-lein Talu
Er mwyn gwneud taliad ar-lein, bydd angen rhif eich cyfrif trethi busnes arnoch (o'ch bil) yn ogystal â'ch cerdyn debyd.
Taliad ffôn awtomataidd
Ffoniwch ein rhif cyfradd leol - 0300 4562765.
Er mwyn gwneud taliad dros y ffôn, bydd angen rhif eich cyfrif trethi busnes arnoch (o'ch bil) yn ogystal â'ch cerdyn debyd.
Trosglwyddiad banc
Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor. Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfrif neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif:
Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AF.
Côd didoli: 30-00-00
Rhif y cyfrif: 00283290
Sylwer efallai y bydd ein henw'n ymddangos fel 'Dinas a Sir Abertawe' neu 'Dinas a Sir Cyngor Abertawe'
Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfeirnod trethi busnes neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif.
Yn bersonol
Gallwch dalu ag arian parod neu gerdyn debyd yn eich swyddfa dai ardal agosaf neu yn y Ganolfan Ddinesig.