Talu gyda cherdyn ar-lein am sachau ailgylchu masnachol
Gallwch archebu sachau newydd ar gyfer ailgylchu papur a gwastraff bwyd, a thalu amdanynt gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gan ddefnyddio'r ffurflen gais hon.
Sylwer ein bod ond yn gallu darparu sachau i gwsmeriaid presennol sydd wedi derbyn casgliadau'n flaenorol. Peidiwch â gosod archeb os nad ydych wedi trafod casgliad oherwydd mae'n bosib na fyddwn yn gallu darparu gwasanaeth i chi. Os oes diddordeb gennych mewn cael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau cysylltwch â ni.
Sachau rhagdaledig ar gyfer gwastraff cyffredinol
Cesglir gwastraff cyffredinol mewn sachau gwyn. Os hoffech chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi lofnodi'r cytundeb isafswm, sef o leiaf un sach wen yr wythnos ar gyfradd o £3.25 am bob sach. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.