Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwydded tyllu croen

Os ydych yn gweithio mewn busnes, sy'n tyllu croen, mae'n rhaid bod trwydded gennych.

Mae'r drwydded yn cwmpasu aciwbigo neu datŵio, lliwio croen lled-barhaol (microbigmentu), tyllu cyrff a chlustiau neu electrolysis. 

Bydd angen trwydded arnoch ar gyfer y busnes lle mae'r croen yn cael ei dyllu ac ar gyfer pob aelod o staff sy'n tyllu croen.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cofrestru mangre lle tyllir croen Cofrestru mangre lle tyllir croen

Cofrestru gweithredwr a fydd yn tyllu croen Cofrestru gweithredwr a fydd yn tyllu croen

Mae'n rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r cais.  Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. 

Ffïoedd

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais. 

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' ac anfon y tâl gyda'ch ffurflen wedi'i chwblhau.

Ffïoedd ar gyfer trwyddedau tyllu croen
Math o drwyddedCost
Safleoedd£111.00
Person£61.00

 

Caniatâd dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Bwyd a Diogelwch.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.

Cofrestru mangre lle tyllir croen

Os yw busnes yn ymwneud â nodwyddo neu datŵio, lliwio'r croen rhannol-barhaol (meicrobigmentiaid), tyllu'r corff neu glustiau neu electrolysis, mae rhaid iddo gael trwydded.

Cofrestru gweithredwr a fydd yn tyllu croen

Os ydych am dyllu croen mewn busnes â thrwydded, bydd angen trwydded gweithredwr ar wahân ar gyfer pob gweithiwr a fydd yn tyllu croen.
Close Dewis iaith