Toglo gwelededd dewislen symudol

Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)

Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn darparu fframwaith ar gyfer sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau ac sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd, addysg, diogelwch a lles cymdeithasol pobl yng Nghymru.

Yn benodol, mae'n ymwneud a'r sefydliadau hynny sy'n cadw gwybodaeth am unigolion ac y mae angen iddynt rannu'r wybodaeth honno i ddarparu gwasanaethau effeithiol.

Mae'n elfen allweddol o Brosiect Rhannu Gwybodaeth Bersonol dan arweiniad Llywodraeth Cymru, sydd a'r nod o sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal a darparwyr gwasanaethau priodol yn y trydydd sector a'r sector preifat, yn rhannu gwybodaeth bersonol am unigolion yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn hyderus. Mae'r fframwaith yn hwyluso hyn drwy bennu gofynion a dulliau cytun ar gyfer cyfnewid gwybodaeth bersonol rhwng darparwyr gwasanaethau.

Mae pob Awdurdod Lleol, Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd, Heddlu, Gwasanaeth Tan a nifer fawr o elusennau a sefydliadau yn y sector gwirfoddol yng Nghymru wedi llofnodi'r Cytundeb. Mae sefydliadau eraill fel ysgolion, meddygfeydd, Cymdeithasau Tai a rhai sefydliadau yn y sector preifat wedi llofnodi'r Cytundeb hefyd.

Close Dewis iaith