Wcráin - sut gallwch helpu
Mae Abertawe yn adnabyddus fel Dinas Noddfa. Mae gennym hanes o groesawu pobl o wahanol genedligrwydd, ethnigrwydd a chrefyddau yn ogystal â'r rheini sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth mewn gwledydd eraill.
Y cyngor presennol gan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau yw mai'r ffordd orau o gefnogi pobl Wcráin yw drwy roddion ariannol. Mae rhagor o fanylion ar gael drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.dec.org.uk/
Help Llywodraeth y DU
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi dau gynllun i helpu'r rheini sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin i ddod i'r DU:
- Fisa Cynllun Teuluoedd o Wcráin
Rhagor o wybodaeth am fisa Cynllun Teuluoedd o Wcráin
- Cynllun Cartrefi i Wcráin
Drwy'r cynllun hwn gallwch helpu rhywun sy'n ffoi o Wcráin drwy ei noddi a chynnig llety iddo yn eich cartref neu gynnig llety hunangynhwysol iddo.
Os ydych wedi cofrestru ar Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â'ch cynnig. Bydd Cyngor Abertawe yn derbyn gwybodaeth am yr holl noddwyr unwaith y bydd Llywodraeth y DU wedi prosesu'r cynigion hyn. Bydd Cyngor Abertawe yn cysylltu â chi unwaith y byddwn wedi derbyn hwn.
Rhagor o wybodaeth am y cynllun Cartrefi i Wcráin
Cynllun Cartrefi i Wcráin: hysbysiad preifatrwydd
Help Llywodraeth Cymru
Llinell gymorth i noddwyr a phobl yn Wcráin
- Gall noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth ar 0808 175 1508 am gyngor
- Ar gyfer pobl o Wcráin a'u teuluoedd, mae cymorth am setlo yn y Deyrnas Unedig a chymorth am fisas ar gael ar GOV UK: Cymorth Fisa y DU ar gyfer gwladolion Wcráin (GOV.UK)
- I gael help i wneud cais i ddod i'r Deyrnas Unedig, ffoniwch y rhif hwn am ddim +44 808 164 8810.
- Ffoniwch 0808 164 8810 os ydych yn y DU. Os na allwch gysylltu â rhifau 0808 y DU ffoniwch +44 (0)175 390 7510
Cynnig swyddi
Sut y gall eich busnes chi gynnig swydd neu leoliad i'r rhai sy'n cyrraedd o Wcráin (ar Business Cymru): AilGychwyn (Busnes Cymru)
Datganiadau gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
3 Mai 2022 - Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (Welsh Parliament - senedd.wales)
29 Mawrth 2022 - Cenedl Noddfa ar Waith (Llywodraeth Cymru)
Y ffigurau fisa diweddaraf ar gyfer Cymru
Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ffigurau am nifer y bobl o Wcráin sydd wedi gwneud cais am fisas ac wedi'u derbyn o dan Gynllun Teulu Wcráin a Chynllun Cartrefi i Wcráin: Data fisâu ar gyfer Cynllun Teuluoedd o Wcráin a Chynllun Nawdd Wcráin (Cartrefi i Wcráin) (GOV.UK)
Ar 5 Mai, cafodd 2,800 fisa eu rhoi i bobl o Wcráin i ddod i Gymru drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin ac mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr i 980. Mae ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol hefyd ar gael.
Help Cyngor Abertawe
Llinell Gymorth Cefnogi Wcráin: 01792 636565
- Dydd Mawrth a Dydd Mercher 10.00am - 1.00pm
- Dydd Iau 2.00pm - 4.30pm
Gallwch adael neges a'ch manylion cyswllt y tu allan i'r oriau hyn.
Gwybodaeth am fudd-daliadau
Goblygiadau o ran budd-daliadau i wladolion Wcráin sydd wedi ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin a'r teuluoedd yn Abertawe y maent yn byw gyda nhw: Argyfwng Wcráin - gwybodaeth am fudd-daliadau (Word doc) [19KB]
Rhagor o help
Gellir dod o hyd i gymorth i bob ffoadur a cheisiwr lloches ddeall eu hawliau gan gynnwys canllawiau yn Wcreineg ac adrannau sy'n benodol i Wcráin yn sanctuary.gov.wales/cy