Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhedwyr a chefnogwyr ar lan môr Abertawe ar gyfer ras 10k flynyddol lwyddiannus

Roedd rhedwyr a gwylwyr ar strydoedd Abertawe heddiw (ddydd Sul) ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral - oedd â thema liwgar yr 1980au.

10k 2021

Roedd tua 4,000 o redwyr wedi cymryd rhan yn un o'r digwyddiadau gorau o'i fath yn y DU. Dyma'r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.

Yn ogystal â phrif ddigwyddiad y 10k, hefyd cynhaliwyd rasys iau 1k a 3k i blant a ras cadair olwyn 10k.

Cynhaliwyd y 40fed ras flynyddol rhwng San Helen a'r Mwmbwls, a chan mai'r thema oedd yr 80au, cafwyd gwisgoedd ffansi a hwyl o'r cyfnod hwnnw ar y dydd.

Roedd rhai agweddau ar y digwyddiad yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol oherwydd y mesurau yr oedd y trefnwyr, Cyngor Abertawe, wedi'u rhoi ar waith o ystyried y ffaith bod COVID-19 yn dal i fod gyda ni ac i helpu i leihau ymlediad y feirws ymhlith pawb a oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Roedd y newidiadau'n cynnwys nifer is o gyfranogwyr, llai o ardaloedd lle byddai rhedwyr yn closio at ei gilydd a mesurau fel dechrau'r ras ar adegau gwahanol.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn rhan allweddol o galendr digwyddiadau Abertawe felly roedd yn dda ei gweld yn ôl.

"Roedd miloedd o bobl wedi mwynhau'r awyrgylch ac wedi cael ychydig oriau mas rhagorol. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w cadw'n ddiogel a diolchwn i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at wneud y digwyddiad yn llwyddiant."

Hwn oedd y 15fed tro i Admiral noddi'r digwyddiad.

Bydd holl ganlyniadau'r rasys ar gael i'w gweld ar-lein yn www.swanseabay10k.com/cy/canlyniadau.

Bydd ffotograffau swyddogol o'r rasys ar gael yr wythnos hon ganphoto-fit.net, ffotograffydd swyddogol ras 10K Bae Abertawe Admiral.

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau y cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral 2022 ddydd Sul 18 Medi.

 

 

 

 

Close Dewis iaith