Toglo gwelededd dewislen symudol

11 Darn o Wybodaeth am Ras 10k Bae Abertawe Admiral

11 Darn o Wybodaeth am Ras 10k Bae Abertawe Admiral

Swansea Bay 10k 2024

 

  1. Dyddiad ac amserau'r ras 

Cynhelir y ras ddydd Sul 14 Medi 2025 a bydd y rasys yn dechrau ar yr amserau canlynol:  

1k (7 oed ac iau) - 09:15 

1k (8-11 oed) - 09:30 

3k - 10:00 

Cadair olwyn elît - 10:55 

10k - 11:00 

Ras y Masgotiaid - 11:10 

Cyn eich ras, ewch draw i Mumbles Road 
(what3words.com//faced.aware.notes) i gael eich lleoli yn eich llociau cychwyn yn seiliedig ar eich amser gorffen disgwyliedig.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yno o leiaf 10 munud cyn dechrau'r ras fel bod popeth yn mynd yn esmwyth.  

  1. Newidiadau Ffyrdd a Theithio  

Mae'n well cyrraedd yn gynnar ar ddiwrnod y ras. Mae'r meysydd parcio'n tueddu i lenwi'n gyflym a gall traffig o gwmpas safle'r digwyddiad fod yn brysur.  

Bydd newidiadau ffyrdd ar waith ddydd Sul 14 Medi rhwng 05:00 a 17:00. Am fanylion llawn, ewch i www.10kbaeabertawe.com/teithio. Disgwylir i'r traffig gynyddu o'r pwynt hwnnw, felly rhowch ddigon o amser i chi'ch hun i gyrraedd.  

Gellir parcio am ddim yn y canlynol:  

  • Maes Parcio'r Rec - what3words.com/chains.coach.acute 

  • Cae Lacrosse Parc Singleton - what3words.com/blocks.deal.system  

  • O flaen Neuadd y Ddinas ac wrth ei hochr - what3words.com/cove.slides.echo 

  • Os yw'r rhain yn llawn, gallwch ddefnyddio Maes Parcio'r Gorllewin y Ganolfan Ddinesig fel maes parcio ychwanegol - what3words.com/play.stack.stem  

Ydych chi'n defnyddio teclyn llywio lloeren? Teipiwch SA2 0AU i ddod o hyd i'r ffordd.  

Bydd cerbydau brys yn cael blaenoriaeth bob amser yn ystod cyfnodau lle ceir newidiadau ffyrdd 

3. Er mwyn hwyluso'r digwyddiad a restrir uchod yn ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau, a bydd dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio ar waith yn yr ardal.

Bydd y brif ras 10k yn dechrau ar Mumbles Road gyferbyn â'r Rec am 11am a bydd yn dilyn Mumbles Road i'r gorllewin i Sgwâr Ystumllwynarth. Bydd y rhedwyr yn troi yma ac yn dychwelyd ar hyd y promenâd i Brynmill Lane lle byddant yn symud i'r ffordd, gan orffen yn y man cychwyn.

Bydd Pentref y Ras ar ran laswelltog y Rec. Bydd bore'r ras yn cynnwys sylwebaeth a cherddoriaeth fyw. Hoffem achub ar y cyfle hwn i'ch annog i alw heibio i fwynhau'r digwyddiad am ddim a chefnogi'r rhedwyr.

Dyma fanylion y ffyrdd a fydd ar gau a'r dargyfeiriadau a fydd ar waith:

5.30am tan 4.00pm

Bydd Mumbles Road ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng y goleuadau traffig wrth y Slip ger maes rygbi San Helen a gwaelod Sketty Lane. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi'n ddiogel ar ôl symud cyfarpar ac isadeiledd y digwyddiad ymaith.

10.30am tan 1.30pm

Bydd Mumbles Road ar gau i draffig sy'n mynd tua'r gorllewin o waelod Sketty Lane i Mayals Road. Bydd angen i draffig sy'n mynd tua'r dwyrain ddefnyddio un lôn a chaiff ei ddargyfeirio i fyny Sketty Lane ar y pwynt hwn.

Bydd Mumbles Road ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng gwaelod Mayals Road a chylchfan West Cross. Bydd y ffordd yn ailagor ar raglen dreigl cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi'n ddiogel ar ôl i'r rhedwr olaf a'r cerbydau diogelwch fynd heibio.

Bydd Mumbles Road ar gau i draffig sy'n mynd tua'r gorllewin rhwng cylchfan West Cross Inn a Sgwâr Ystumllwynarth. Bydd y ffordd yn ailagor ar raglen dreigl cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi'n ddiogel ar ôl i'r rhedwr olaf a'r cerbydau diogelwch fynd heibio.

Er diogelwch pawb, ni fydd preswylwyr Mumbles Road yn gallu cael mynediad i rannau o'r ffordd hon rhwng tua 10.30pm a 2.00pm. Bydd y ffyrdd ar gau ar raglen dreigl a chânt eu hailagor cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny. Bydd cerbydau argyfwng yn gallu cael mynediad ar bob adeg.

Ni fydd modd parcio ar Bryn Road, er mwyn galluogi cerbydau argyfwng i gael mynediad.

Pam bydd ffyrdd ar gau?

Mae rhan o lwybr Ras 10k Bae Abertawe Admiral ar ffyrdd. Felly, bydd ffyrdd ar gau i alluogi'r ras i fynd rhagddi, ac er diogelwch y rhedwyr.

A fydd unrhyw lwybrau beicio ar gau?

Na fydd. Caiff arwyddion rhybudd eu gosod ymlaen llaw, a bydd stiwardiaid ar hyd y llwybr yn cynghori beicwyr i ddod oddi ar eu beiciau yn ystod cyfnodau prysuraf y ras.

4. Y ras   

Bydd Pentref y Ras ar agor rhwng 08:00 a 16:00.  

Bydd gan Bentref y Ras doiledau, stondinau bwyd a diod, a cherddoriaeth fyw.  

Dyma'r lle perffaith i ymlacio, bwyta a dathlu'r ras!  

Cyn y Ras: 

Casglu Crysau T  

Os ydych chi wedi dewis derbyn crys-t y ras, gallwch ei gasglu o'r babell crysau-t ar Faes y Rec:  

  • Dydd Gwener 12 Medi: 12:00 - 20:00 

  • Dydd Sadwrn 13 Medi: 09:00 - 18:00 

  • Dydd Sul 14 Medi: 08:00 - 14:00 

Cofiwch ddod â'ch taleb crys-t - mae ar waelod eich bib ar gyfer y ras. Rhoddir crys-t â'r maint y gofynnwyd amdano gennych ar adeg cofrestru; ni fyddwch yn gallu newid i faint gwahanol.  

Yn ystod y ras: 
 
Dylid pinio'ch rhif ras ar flaen eich crys a chofiwch lenwi'r wybodaeth feddygol ar y cefn. Cadwch eich rhif yn wastad - gan beidio â'i blygu neu ei dorri - a gwisgwch ef trwy gydol y ras.  

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan staff y digwyddiad neu farsialiaid - maen nhw yno i helpu i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth (esgusodwch y jôc).  

Gallwch ddod o hyd i orsaf ddŵr wrth gyrraedd 5k, diolch i'n partner hydradu, Princes Gate Mineral Water. Pan fyddwch wedi cael diod, rhowch eich potel wag yn y biniau ailgylchu a ddarperir.  

Cymerwch gip ar reolau'r ras yma - www.10kbaeabertawe.com/rheolau  

Y Llwybr:  

Mae'r llwybr yn wastad ac y gyflym, ac mae'n dilyn arfordir Bae Abertawe, sy'n ei wneud yn berffaith ar gyfer rhedwyr a chefnogwyr.  

Sylwer - Mae'r man troi wedi newid ychydig o flynyddoedd blaenorol. Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwirfoddolwyr a'r arwyddion cyfeiriol. 

Hoffech chi gael cip ar lwybr y ras? Ewch i www.10kbaeabertawe.com/cwrs  

Ar ôl y Ras:  
 
Gofynnir i bob gorffennwr symud drwy'r twndisau ac allan ohonynt unwaith y maent wedi casglu eu medal, eu dŵr eu banana a'u bar protein. Bydd staff wrth law i helpu rhedwyr.  

Sylwer - mae pob ras yn llawn, felly ni fyddwch yn gallu cofrestru ar y diwrnod.  

Ymunwch â'n partner Lletygarwch, The Secret Bar & Kitchen ar gyfer eu barbeciw, a fydd yn dechrau am 10:00 ac yn cynnwys bwyd a cherddoriaeth fyw.  

5. Gwylio  

Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn wych i redwyr, ond mae hefyd yn ddiwrnod allan gwych i'ch teulu a'ch ffrindiau wrth iddynt eich cefnogi!  

Mae croeso i chi ledaenu ar hyd y llwybr a chefnogi pawb. Bydd adloniant byw yn y mannau bloeddio a bydd stondinau bwyd a diod ger y llinell derfyn ac ym Mhentref y Ras.  
 
Gellir dod o hyd i'r mannau bloeddio yn www.10kbaeabertawe.com/cwrs  

6. Cymorth cyntaf a diogelwch  

Bydd cymorth cyntaf a ddarperir gan Ambiwlans Sant Ioan ar gael ar hyd y cwrs, a bydd y brif orsaf ger y llinell derfyn. Os bydd angen help arnoch yn ystod y ras, rhowch wybod i'r marsial neu'r stiward agosaf atoch.  

Cyn y ras, gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi'r manylion meddygol ar gefn eich rhif ras - mae'n bwysig. Hefyd, os ydych chi'n teimlo'n sâl (neu os ydych newydd fod yn sâl), mae'n well peidio â chymryd rhan. Eich iechyd yw'r peth pwysicaf!  

  1. Plant Coll  

Os ydych chi'n cael eich gwahanu oddi wrth eich plentyn, peidiwch â phoeni - mae'r Man Plant Coll ger y Babell Wybodaeth ym Mhentref y Ras ar Faes y Rec (what3words.com/rated.labels.yard). Bydd ein tîm yno i helpu i ailuno teuluoedd yn gyflym ac yn ddiogel.  

8. Lluniau / iTAB 

Caiff lluniau o'r ras eu tynnu ar hyd y cwrs a byddant ar gael i'w prynu drwy https://photo-fit.photohawk.com/galleries/admiral-swansea-bay-10k-2025  ddeuddydd neu dridiau ar ôl y ras.  

Beth bynnag yw eich rheswm dros redeg, gallwch ddathlu'r ras mewn steil trwy bersonoli'ch medal ras 10k Bae Abertawe Admiral gydag iTAB. Bydd yn cynnwys eich enw a'ch amser gorffen a bydd y mewnosodiad metel yn ffitio'n berffaith yn eich medal.  

I archebu eich iTAB ymlaen llaw, mewngofnodwch i'ch cyfrif cofrestru ar gyfer y ras a dewiswch yr opsiwn i brynu iTAB - https://in.njuko.com/swansea-bay-10k?currentPage=select-competition 

9. Arweiniad i'r ras 

I ddarganfod mwy o wybodaeth am y cyfnodau cyn, yn ystod ac ar ôl y ras ynghyd â rhai cwestiynau cyffredin, ewch i www.10kbaeabertawe.com/Arweniad   

10. Canlyniadau'r ras  

Bydd canlyniadau'r ras ar gael yn dilyn y ras yn 10kbaeabertawe.com.   

10. Diolch 

Diolch i'n holl gyfranogwyr am barhau i sicrhau bod ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr rasys, ac i'w cefnogwyr sy'n creu awyrgylch wych.  

Ni allai Cyngor Abertawe gynnal y digwyddiad heb gefnogaeth ein noddwyr:  

  • Ein Prif Noddwr Admiral, sydd wedi noddi'r digwyddiad ers 19 mlynedd - Meddai Lorna Connelly, Pennaeth Pobl cwmni Admiral, "Mae'n braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad mor wych yn Abertawe. O deuluoedd a gwirfoddolwyr yn dangos eu cefnogaeth i bob rhedwr sy'n paratoi ar gyfer y ras, pob lwc bawb!" 

  • Ein Partner Hydradu, Princes Gate Mineral Water -  Meddai Eloise, Rheolwr Brand, "Mae yfed digon o ddŵr drwy gydol y dydd yn bwysig ar gyfer egni, canolbwyntio a pherfformiad wrth ymarfer corff, fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos nad yw 4 allan o 5 o bobl yn yfed digon o ddŵr. Felly, rydym yn falch o gefnogi 10k Bae Abertawe Admiral eleni drwy helpu cyfranogwyr i yfed digon o ddŵr a hyrwyddo pwysigrwydd hydradu a gweithgarwch corfforol ar gyfer lles." 

  • The Secret Bar and Kitchen am ddarparu lletygarwch 

  • FRF Alfa Romeo am gyflenwi'r ceir arweiniol ar gyfer y digwyddiad 

  • Ein Partner Cerbydau Days Rental 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Medi 2025