Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema'r 80au

Disgwylir i'r digwyddiad a drefnir gan Gyngor Abertawe gael ei gynnal ddydd Sul 19 Medi a bydd y cyfle i gofrestru'n cau ar 31 Awst, er gall hyn fod yn gynharach os nad oes lleoedd ar ôl cyn hynny.

Swansea Bay 10k runners

Swansea Bay 10k runners

Er mwyn dathlu lansiad y digwyddiad ym 1981, bydd digwyddiad eleni'n dathlu popeth sy'n ymwneud â'r 1980au, felly mae croeso i'r rheini sy'n cymryd rhan ddathlu popeth am yr 80au drwy wisgo gwisg ffansi fel bandiau chwys, cynheswyr coesau, gwallt mawr a lliwiau llachar - ewch yn wyllt! Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth a chymeriadau o'r 80au a digon o adloniant yn y parthau cefnogi ar hyd y llwybr.

Disgwylir i gannoedd o bobl sydd newydd ddechrau rhedeg ymuno â 40fed ras 10k Bae Abertawe'r haf hwn a noddir gan Admiral. Dechreuodd llawer o bobl redeg ar ôl iddynt dreulio cannoedd o oriau ychwanegol yn eu cartrefi oherwydd y pandemig.

Council cabinet member Robert Francis-Davies said: "Lots have people have taken up running, jogging or walking over the past 16 months.

"Mae'n debyg bod llawer eisoes wedi hyfforddi digon i allu rhedeg y ras 10k, ond nid ydynt wedi sylweddoli hynny eto!

"Mae rhedeg wedi bod yn ddihangfa y mae llawer wedi'i fwynhau, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf neu cyn hynny, ac mae wedi cynnig buddion iechyd a lles go iawn.

"Ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn rhedeg neu loncian dros y misoedd diwethaf, mae'r 10k yn gyfle gwych i fwyhau llwybr gwastad, llawn golygfeydd mewn ffordd newydd. Gall fod yn her gyffrous newydd - a bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn ennill gwobr i ddathlu pen-blwydd y ras yn 40 oed!"

Fel yr holl ddigwyddiadau rhedeg yng Nghymru, gohiriwyd ras y llynedd o ganlyniad i'r pandemig. Bydd ras eleni'n un arbennig iawn am ei bod yn dathlu pen-blwydd ras 10k Bae Abertawe'n 40 oed.

 Dyma fydd y 15fed achlysur i gwmni Admiral noddi'r digwyddiad, sydd yn ogystal â'r 10k yn cynnig rasys hwyl iau 1K a 3K, ynghyd â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn a ras masgotiaid. 

Meddai Rhian Langham, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral: "Rydym yn falch o barhau i noddi ras 10k a rasys hwyl Bae Abertawe Admiral am y 15fed flwyddyn. Mae cefnogi diwyddiadau yn ein cymuned leol yn rhan fawr o'n diwylliant yma yn Admiral felly mae'n wych bod yn rhan o ddigwyddiad fel hyn, yn enwedig ar ôl blwyddyn heriol.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn, ar ran pawb yn Admiral, i ddymuno pob lwc i'r holl redwyr."

Bydd Tîm Digwyddiadau'r cyngor yn parhau i fonitro sefyllfa'r pandemig yn agos. Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral yn unol â rheoliadau a chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athletau'r DU.

Bydd mesurau fel dechrau'r ras ar adegau gwahanol yn sicrhau bod y ras yn ddiogel i bawb sy'n cymryd rhan, gan gynnwys y gymuned ehangach.

Sicrhawyd lleoedd i'r rheini a gofrestrodd ar gyfer digwyddiad 2020 yn awtomatig ar gyfer digwyddiad dathliadol eleni. 

Ewch i swanseabay10k.com/cy am ragor o wybodaeth ac i gadw'ch lle ar y llinell gychwyn.