Toglo gwelededd dewislen symudol

Ras 10k glan môr yn dod i Abertawe ddydd Sul

Ddydd Sul bydd ras arobryn 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd.

The 10k in 2019

Mae'r ras flynyddol, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni, yn dechrau am 11am ym maes chwarae San Helen, ac mae trefnwyr yn annog ymwelwyr a modurwyr i baratoi ar gyfer trefniadau cau ffyrdd ar y diwrnod.

Mae'n debygol y bydd torfeydd yn dechrau ymgynnull tua 8.30am wrth i oddeutu 4,000 o redwyr baratoi ar gyfer y brif ras, sy'n mynd i'r gorllewin o San Helen ar hyd Mumbles Road i faes parcio Ystumllwynarth. Yma, bydd y rhedwyr yn troi ac yn rasio yn ôl ar hyd y promenâd tuag at y llinell derfyn ar bont slip y prom.

Cynhelir nifer o rasys eraill hefyd, gan gynnwys rasys iau 1k a 3k i blant iau a ras 10k i bobl mewn cadair olwyn. Mae'r holl leoedd ar gyfer pob ras bellach wedi eu llenwi, felly ni fydd pobl yn gallu cofrestru i gymryd rhan ar y diwrnod.

Cyngor Abertawe sy'n trefnu'r digwyddiad ac ar gyfer digwyddiad eleni mae thema'r 1980au er mwyn nodi pen-blwydd y digwyddiad, a ddechreuodd ym 1981. Gall y rheini sy'n cymryd rhan ddathlu popeth am yr 80au drwy wisgo gwisg ffansi fel bandiau chwys, cynheswyr coesau, gwallt mawr a lliwiau llachar.

Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth a chymeriadau o'r 80au a digon o adloniant yn y parthau cefnogi a osodwyd yn arbennig ar hyd y llwybr.

Bydd y digwyddiad hefyd yn edrych yn wahanol i flynyddoedd blaenorol oherwydd bod y cyngor wedi rhoi mesurau ar waith i adlewyrchu'r ffaith bod COVID-19 gyda ni o hyd. Mae newidiadau'n cynnwys nifer is o gyfranogwyr, llai o ardaloedd lle bydd rhedwyr yn closio at ei gilydd a mesurau fel dechrau'r ras ar adegau gwahanol.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd yn wych gweld pobl yn rhedeg unwaith eto yn ras 10k Bae Abertawe Admiral, sydd wedi dod yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr digwyddiadau Abertawe.

"Mae gennym fesurau diogelwch COVID ar waith ac, fel bob amser, rydym yn cyfyngu ar y trefniadau cau ffyrdd. Maent yn fesur diogelwch angenrheidiol ar gyfer digwyddiad o'r maint hwn a hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu dealltwriaeth."

Dyma fydd y 15fed tro y mae Admiral wedi noddi'r digwyddiad.

Bydd trefniadau cau ffyrdd dydd Sul yn cynnwys:

·       09:30-13:30 - Bydd Mumbles Road ar gau rhwng Guildhall Road South a Sketty Lane.

·       09:30-13:30 - Bydd Brynmill Lane ar gau rhwng Mumbles Road a Bryn Road, oni bai am fynediad o gyfeiriad y de i'r Rec oddi ar Brynmill Lane ar gyfer parcio (yn ddibynnol ar argaeledd ar y diwrnod).

·       10:30-13:30 - Troi i'r dde yn unig o Sketty Lane i Mumbles Road.

·       10:30-13:30 - Sketty Lane ar gau i gyfeiriad y de. Caiff mynediad i Ysbyty Singleton a Phwll Cenedlaethol Cymru ei gynnal.

·       10:30-13:30 - Bydd Mymbles Road ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Sketty Lane a Mayals Road. Troi i'r chwith yn unig (tuag at ganol y ddinas) o Ashleigh Road, Derwen Fawr Road, Mill Lane a Mayals Road.

·       10:30-13:30 - Mumbles Road ar gau rhwng Mayals Road a Fairwood Road.

·       10:30-13:30 Mumbles Road ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Fairwood Road a Newton Road. Troi i'r chwith yn unig tuag at ganol y ddinas o Alderwood Road, Bethany Lane, Palmyra Court, Norton Avenue a Newton Road.

Amcangyfrifon yw'r amserau ailagor gan eu bod yn dibynnu ar gyflymder y rhedwyr.

Mae llwybrau dargyfeirio ar gael lle bo modd a chaiff gwybodaeth arbennig ei rhoi i'r rheini sy'n byw neu'n gweithio ger llwybr y 10k.

Darllenwch arweiniad diwrnod y ras yn www.10kbaeabertawe.com i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am deithio a pharcio.

Llun: Ras 10k Bae Abertawe Admiral flaenorol.

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith