Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio cynllun newydd yn Abertawe i leihau gwastraff untro

Mae canol dinas Abertawe wedi cymryd cam mawr tuag at leihau deunydd pecynnu untro drwy lansio cynllun 2GoCup.

2GoCup scheme launch

2GoCup scheme launch

Mae'r fenter 2GoCup yn rhoi cwpanau ailddefnyddiadwy i fusnesau , gan ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid ddefnyddio cwpanau mwy cynaliadwy yn hytrach na rhai untro.

Mae'r fenter yn cael ei hariannu gan Gyngor Abertawe a'i chynnal gan Ardal Gwella Busnes Abertawe, a'r syniad yw bod cwsmeriaid yn talu blaendal bach am gwpan ailddefnyddiadwy, gwydn, y gallant ei ddychwelyd i unrhyw fusnes sy'n cymryd rhan am ad-daliad, neu ei gyfnewid am gwpan newydd.

Nod y cynllun yw lleihau'r miloedd o gwpanau coffi untro sy'n cael eu taflu bob wythnos yng nghanol y ddinas, gan helpu Abertawe i gyrraedd ei nodau cynaliadwyedd.

Mae nifer o fusnesau yng nghanol y ddinas eisoes wedi cofrestru. Maent yn cynnwys Socialdice/Piñatas ar Wind Street, Little Man Coffee yn Founders & Co ar Wind Street, The Storyteller ar Princess Way, First Call Coffee ar y Stryd Fawr, The Cwtch ar Caer Street, The Anchor yn yr Ardal Forwrol, Café Ark ar Stryd Rhydychen a Hello Asia ar Princess Way.

Meddai'r Cyng. Andrea Williams, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau Cyngor Abertawe, "Mae cynllun 2GoCup yn ffordd ymarferol o'n helpu ar ein taith i ddod yn ddinas sero net erbyn 2050.

"Mae pob newid bach yn gwneud gwahaniaeth, felly drwy leihau gwastraff untro, rydym yn diogelu ein hamgylchedd, yn cadw'r ddinas yn lân ac yn cefnogi ein busnesau lleol.

"Rydym yn falch o ariannu'r fenter hon ac yn edrych ymlaen at weld mwy o fusnesau yn cymryd rhan."

Meddai Andrew Douglas, Rheolwr AGB Abertawe, "Mae Abertawe'n ddinas sy'n edrych tua'r dyfodol, ac mae ein busnesau'n falch o fod yn arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd.

"Mae'r cynllun 2GoCup yn ei gwneud hi'n hawdd i gwsmeriaid ddewis opsiynau gwyrddach heb unrhyw drafferth ychwanegol, ac mae wedi bod yn wych gweld yr ymateb cynnar cadarnhaol.

"Rydym yn gyffrous i adeiladu ar y momentwm hwn yn y misoedd i ddod, gan ehangu'r cynllun ac annog pobl i archwilio siopau coffi newydd ledled y ddinas, a fydd yn rhoi hwb i fasnach ar gyfer ein busnesau AGB wrth gefnogi Abertawe fwy cynaliadwy."

Meddai Kieran Ivett, perchennog Socialdice a Piñatas ar Wind Street, "Rwy'n hynod angerddol am y cynllun hwn.

"Mae eisoes wedi cyflawni canlyniadau gwych yn Iwerddon, ac rwy'n hyderus y bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy ac yn rhoi cyfle i fusnesau gysylltu â chwsmeriaid newydd.

"Mae'r syniad yn syml ac rwy'n credu y bydd pobl sy'n dod i'r ddinas yn ei groesawu ac yn chwarae eu rhan wrth amddiffyn yr amgylchedd."

Mae 2GoCup, egin fusnes o Iwerddon, wedi bod yn creu argraff ar draws y DU ac Iwerddon ers ei lansio yn 2018.

Mae'r cwpanau wedi'u gwneud o ddeunyddiau gwydn, heb fisffenol A (BPA), ac maent wedi'u cynllunio i'w defnyddio nifer o weithiau. Maent yn gallu cael eu hailgylchu'n llawn ar ddiwedd eu cylch oes.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2025