Gweithwyr ar fin symud i gynllun newydd yng nghanol dinas Abertawe
Bydd cannoedd o bobl yn dechrau gweithio'n fuan o ddatblygiad swyddfeydd newydd mewn hwb mawr i ganol dinas Abertawe.


Disgwylir i staff o'r cwmni teithio a hamdden TUI, a'r cwmni ariannol Futures First symud i adeilad 71/72 Ffordd y Brenin yn yr ychydig wythnosau nesaf.
Bydd lle i 600 o weithwyr yn y cynllun 104,000 troedfedd sgwâr a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae 80% o'r cynllun eisoes wedi'i osod, ac mae IWG ymysg y tenantiaid eraill sydd wedi'u cadarnhau. Mae trafodaethau ar gyfer yr holl leoedd eraill yn y cynllun yn mynd rhagddynt yn dda, a bydd rhagor o denantiaid yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau sy'n dod.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn gam hanfodol wrth fynd i'r afael â'r diffyg lleoedd swyddfa o safon yn Abertawe.
"Mae creu amgylcheddau modern, hyblyg yng nghanol y ddinas yn cryfhau gallu Abertawe i ddenu a chadw busnesau, darparu cefnogaeth ar gyfer swyddi newydd a chystadlu â lleoliadau mawr eraill yn y DU fel cyrchfan ar gyfer buddsoddiad.
"Mae'n galonogol iawn y bydd tenantiaid cyntaf y cynllun yn symud i'r adeilad cyn bo hir, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi hyd yn oed mwy o denantiaid yn yr wythnosau sy'n dod unwaith y caiff y trafodaethau eu cwblhau.
"Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin hefyd yn cyfuno â chynlluniau eraill i ddenu'r niferoedd ychwanegol o ymwelwyr sydd eu hangen ar ganol y ddinas i gefnogi ein masnachwyr presennol ac annog mwy o siopau a busnesau eraill i agor yno."

Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin hefyd yn cynnwys neuadd ddigwyddiadau a mannau ar gyfer busnesau bwyd a diod.
Mae ganddo deras gwyrdd ar y to â golygfeydd dros Fae Abertawe hefyd, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.
Mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys cyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen a fydd yn elwa'n fuan o waith tirlunio pellach.