Toglo gwelededd dewislen symudol

71/72 Ffordd y Brenin

Mae cynllun swyddfeydd o'r radd flaenaf, dan arweiniad Cyngor Abertawe, wedi'i ddatblygu ar safle hen glwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin.

71-72 Kingsway impresssion.

71-72 Kingsway impresssion.

Rydym yn gwneud gwaith gosod cyn i'r tenantiaid symud i'r safle a chaiff rhagor o denantiaid eu cyhoeddi maes o law.

Mae gan y datblygiad, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, le ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau fel y rhai technolegol a digidol a'r diwydiannau creadigol.

Pan fydd yn weithredol, bydd datblygiad newydd 71/72 Ffordd y Brenin yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

Mae'r cynllun, sy'n cynnwys saith llawr, yn ceisio gweithredu ar sero net.

Mae'r datblygiad a ddyluniwyd gan Architecture 00 hefyd yn cynnwys teras gwyrdd ar y to a chanddo olygfeydd dros Fae Abertawe, paneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys 69 o leoedd i feiciau a man gwefru beiciau trydan yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth a chyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.

Bougyes UK sydd wedi arwain ar adeiladu'r cynllun.

Newyddion diweddaraf

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Gorffenaf 2025