Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gostwng yng nghanol y ddinas eto

Mae adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas yn ystod cyfnod yr haf wedi gostwng am yr ail flwyddyn yn olynol.

City Chill 2025 Summer ASB activities partners

City Chill 2025 Summer ASB activities partners

Eleni, gweithiodd Cyngor Abertawe gyda Heddlu De Cymru a phartneriaid eraill i hwyluso sesiynau i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau rhwng y cenedlaethau a chymdeithasu'n ddiogel.

Mae ffigurau'n dangos gostyngiad o 12.1% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn 2025, sy'n dilyn gostyngiad o 38% yn ystod gwyliau'r ysgol yn 2024.

Cynhaliwyd gweithgareddau canol y ddinas yn y Cwtsh Cydweithio dros dro yn Sgwâr Dewi Sant lle bu'r cyngor a'r heddlu yn gweithio gyda mwy na 60 o bartneriaid eraill.

Cynhaliwyd 98 o wahanol ddigwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai, a'r mwyaf poblogaidd oedd gŵyl rhwng cenedlaethau a welodd fwy na 900 o bobl ifanc a hŷn yn cymysgu am ddiwrnod o gerddoriaeth a pherfformiadau.

Meddai Arolygydd Canol Dinas Abertawe Andrew Hedley, "Dyma'r ail flwyddyn i ni gynnal ymgyrch blismona Daylily yn ei fformat presennol.  Rydyn wedi gallu adeiladu ar lwyddiant y llynedd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol hyd yn oed ymhellach.

"Mae'r gwaith partneriaeth cryf sydd eisoes wedi'i sefydlu wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant yr ymgyrch hon. Roedd ychwanegu canolfan dros dro hefyd wedi ychwanegu at lwyddiant yr ymgyrch, drwy ddarparu lle diogel a chydlynol i bawb ei ddefnyddio, lle gellir cyfeirio pobl berthnasol iddo.

"Mae'r gostyngiad hwn yn gadarnhaol iawn, ond rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod canol y ddinas yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef sy'n rhydd o'r rhai sy'n bwriadu troseddu ac ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.

"Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino gyda'n partneriaid i gyflawni hyn."

Meddai'r Cynghorydd Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Weithiau gall pobl fod yn rhy gyflym i feirniadu pobl ifanc, ond fe wnaethon nhw ddod â brwdfrydedd go iawn a syniadau gwych i'r sesiynau a'r gweithgareddau.

"Roedd y gwaith yn y Cwtsh Cydweithio dros dro yn ychwanegol at gannoedd o weithgareddau cost isel ac am ddim a ariannwyd gan y cyngor a oedd ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd ym mhob ardal yn Abertawe fel rhan o'n cefnogaeth iddynt yn ystod cyfnod yr haf."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu brwdfrydedd wrth weithio gyda ni a'n holl bartneriaid eraill a chwaraeodd ran bwysig yn ystod yr haf.

"Rwy'n credu y gallwn ni i gyd fod yn falch bod gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol eto eleni dros gyfnod yr haf.Mae hyn yn dangos bod y partneriaethau hyn wir yn gwneud gwahaniaeth er lles ein holl breswylwyr."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Hydref 2025