Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Diolch yn cael ei roi i bobl am eu cynigion i gefnogi ffoaduriaid Affganaidd

Diolchir i bobl yn Abertawe am eu cynigion cefnogaeth hael wrth i'r ddinas chwarae ei rhan wrth groesawu ffoaduriaid sy'n ffoi o Affganistan.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Mae nifer bach o deuluoedd yn ymgartrefu yn y ddinas ac mae Abertawe wedi cynnig croesawu rhagor.

Mae cynghorau ledled y DU yn chwarae eu rhan wrth ailgartrefu Affganiaid sydd wedi gweithio i Lywodraeth Prydain.

Mae pobl o bob rhan o Abertawe wedi bod yn gofyn beth gallant ei wneud i helpu ond mae'r newydd ddyfodiaid wedi cael yr hyn y mae ei angen arnynt drwy gynllun a ariennir gan y Llywodraeth.

Meddai Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Mae'r delweddau rydym yn parhau i'w gweld ar y newyddion sy'n dod o Affganistan yn arswydus, ac mae llawer o bobl wedi cysylltu â'r cyngor i weld a allant gynorthwyo.

"Hoffwn ddiolch iddynt, ac nid yw'r cynigion hael o roddion ar eu cyfer yn fy synnu am fod gan bobl Abertawe hanes hir o groesawu a helpu'r rheini sy'n ffoi o wrthdaro ac erledigaeth.

"Drwy'r cynllun a ariennir gan Lywodraeth y DU, darperir cartref wedi'i ddodrefnu iddynt a chymorth ariannol nes y gallant sicrhau cyflogaeth.

"Mae'r cyngor a'r elusen EYST rydym yn gweithio gyda nhw'n darparu cymorth o ran cofrestru mewn ysgolion a chyda meddygfeydd teulu ac integreiddio cyffredinol.

"Does dim angen rhoddion i'w rhoi'n uniongyrchol i'r teuluoedd hyn ar hyn o bryd. Rydym yn ffodus iawn yn Abertawe fod gennym gynifer o elusennau a sefydliadau sy'n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches o amrywiaeth o wledydd sydd wedi dod i Abertawe dros flynyddoedd lawer, ac mae eu manylion ar wefan y cyngor.

Meddai un ffoadur a ymgartrefodd o'r blaen yn Abertawe, "Mae Abertawe yn lle hyfryd ond y peth pwysicaf i fi yw cynhesrwydd a chyfeillgarwch pobl y ddinas."

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn cynnig hediadau a chefnogaeth i unrhyw un yn Affganistan sydd wedi gweithio i'r DU yr asesir bod bygythiad uniongyrchol i'w fywyd.

Dywed y Swyddfa Gartref y cafwyd o hyd i gartrefi newydd yn y DU i fwy na 2,000 o unigolion, sy'n cyfateb i oddeutu 600 o aelwydydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Pugh, "Er bod niferoedd yn gymharol fach ar hyn o bryd o ran y DU gyfan, mae Abertawe yn chwarae ei rhan, ac fel Dinas Noddfa gyntaf Cymru, rydym yn barod i wneud mwy ac yn falch o wneud hynny."