Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Sioe Awyr Cymru y penwythnos hwn: Yr hyn y mae angen i chi ei wybod!

Mae Sioe Awyr Cymru'n dychwelyd y penwythnos hwn (1 - 2 Gorffennaf) i Fae Abertawe.

Airshow Planes

Airshow Planes

Isod mae rhai awgrymiadau i'ch helpu i wneud yn fawr o'r digwyddiad am ddim mwyaf Cymru, a drefnwyd gan Gyngor Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Edrychwn ymlaen at groesawu degau o filoedd o bobl i'r sioe flynyddol eithriadol hon.

"Bydd digonedd i'w fwynhau gyda'r arddangosiadau awyr ac ar y ddaear ar gyfer y teulu cyfan, a byddem yn annog pawb i gynllunio ymlaen llaw er mwyn gwneud yn fawr o'u mwynhad o'r digwyddiad.

"Rydym yn diolch i'r rheini y mae'n bosib y bydd yn rhaid i'w trefn ddyddiol newid oherwydd y newidiadau ffyrdd sydd ar waith er diogelwch pawb.

"Diolchwn hefyd i'n noddwyr a'n cefnogwyr sy'n ein helpu i gadw'r digwyddiad gwych hwn am ddim i gynifer o bobl i'w fwynhau."

Awgrymiadau ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Peidiwch â cholli'r Red Arrows

Maen nhw'n enwog am eu herobateg a'u harddangosiadau cyffrous, ni ddylech golli'r Red Arrows. Mae'r cyngor newydd gyhoeddi'r amserau ar gyfer ymddangosiad y tîm RAF byd-enwog hwn, a gefnogir ar yr achlysur hwn gan DS Automobiles yn FRF Motors Abertawe. Gallwch ymweld â stondin DS Automobiles yn FRF Motors Abertawe nesaf at efelychydd y Red Arrows ym mhentref yr RAF.

Mae disgwyl i'r Red Arrows ymddangos dros Abertawe am 5pm ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf, ac am 12pm ddydd Sul, 2 Gorffennaf.

Edrychwch i'r awyr

Bydd tîm arddangos Typhoon yr RAF yn dychwelyd ar gyfer y penwythnos mawr, a bydd ei griw hefyd yn dod ynghyd ag awyren Lancaster Hediad Coffa Brwydr Prydain fel rhan o ehediad newydd i goffáu 80 mlynedd ers cyrch y 'Dambusters' (Dydd Sul yn unig).

Disgwylir i dîm Raven,sy'n cynnwys chwe pheilot hynod brofiadol, berfformio ehediadau erobateg yn eu hawyrennau a adeiladwyd ganddynt hwy eu hunain. Bydd yr atyniadau eraill yn cynnwys cerddwyr adenydd AeroSuperBatic, sef yr unig dîm cerdded adenydd yn y byd, bydd gan y Jet Pitts awyren ddwbl sy'n gwneud campau a fydd yn perfformio symudiadau medrus a bydd y Norwegian Vampireyn arddangos ei harbenigedd hedfan. 

Bydd y torfeydd yn cael gweld awyren ymladd Americanaidd o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, y Republic P-47 Thunderbolt, ynghyd â phâr o Strikemasters sy'n gallu hedfan ar gyflymder o dros 450mya, yr awyren ddwblFairey Swordfish (dydd Sul yn unig), Supermarine Seafire(dydd Sadwrn yn unig), Havard o ogledd America (dydd Sadwrn yn unig), ffefrynnau Sioe Awyr Cymru, tîm arddangos parasiwt yTigers, a Yak-50 (awyren sydd wedi bod yn bencampwr erobateg y byd ddwywaith, ac, i'r rheini sy'n dwlu ar hofrenyddion, y Westland Wasp (dydd Sul yn unig).

Cadwch eich traed ar y ddaear

Mae gweithgareddau ar y ddaear hefyd. Bydd arddangosiadau ar y ddaear ar gyfer y teulu cyfan, gan gynnwys atgynhyrchiadau o'r Typhoon a'r Spitfire, arddangosiadau milwrol rhyngweithiol, stondinau bwyd a diod, adloniant byw, ffair, dau efelychwr gan gynnwys un o'r Red Arrows, stondinau masnach gan gynnwys cefnogwr y sioe awyr, John Pye Auctions, ac yn newydd ar gyfer eleni, y parth moduron, ardal ar gyfer y rheini sy'n dwlu ar geir a beiciau modur gyda stondinau yn cynnwys cefnogwr y sioe awyr, Sinclair Group.

Mae'r arddangosiadau ar y ddaear yn ffordd wych o brofi Sioe Awyr Cymru o bersbectif gwahanol.

Cynlluniwch ymlaen llaw i wneud yn fawr o'ch diwrnod

Mae rhai lleoedd ar gael o hyd yn y maes parcio penodol y gellir cadw lle ynddo ymlaen llaw. Mae hwn yn cynnig cyfleustra gan ei fod yn agos at ganol ardal y sioe awyr a hefyd yn gwarantu lle parcio ar benwythnos prysur. Mae'r ffïoedd yn amrywio o £10 ac yn parhau i fod yr un peth ag y llynedd, gyda chynnydd o 50c yn unig ar gyfer parcio a theithio.

Bydd cyfleusterau parcio a theithio ar gael yn Stiwdio'r Bae, oddi ar Fabian Way, ac yn safle parcio a theithio Glandŵr y cyngor. Bydd gwasanaethau bws rheolaidd yn mynd â phobl o'r cyfleusterau parcio a theithio i'r Ganolfan Ddinesig ac yn ôl drwy gydol penwythnos y digwyddiad. Gwybodaeth am barcio.

Gallwch deithio i Sioe Awyr Cymru ar y trên neu ar y bws gyda'r partneriaid teithio swyddogol, GWR a First Cymru.

Mae gan Sioe Awyr Cymru ap swyddogol sydd wedi'i ddylunio i wella profiad yr ymwelydd. Mae'n cynnig amserlen swyddogol yr arddangosiadau, diweddariadau byw, gwybodaeth am yr awyrennau a mwy. Mae ar gael ar ddyfeisiadau Android ac Apple am daliad untro o £1.99 ac mae modd ei lawrlwytho eto am ddim os ydych wedi'i brynu'n flaenorol.

Mae trefnwyr a phartneriaid yn cymryd nifer o gamau i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad. Mae'r rhain yn cynnwys prif fannau ailgylchu tair orsaf ail-lenwi poteli dŵr gydag arwyddion i helpu i leihau gwastraff plastig. Cynlluniau a mentrau llawn.

Arhoswch yn ddiogel!

Mae bandiau arddwrn am ddim ar gyfer plant sydd ar goll, a noddir gan Dawsons, ar gael o fannau gwybodaeth y sioe awyr, staff y maes parcio a chan stondinau'r heddlu a'r gwasanaeth tân ger y Senotaff. Mae'n ffordd syml a chyflym o helpu plentyn sydd ar goll i aduno â'i rieni. Ysgrifennwch eich rhif ffôn symudol ar gefn y band arddwrn a'i roi ar arddwrn eich plentyn.

Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn i chi deithio. Mae'r trefnwyr yn gobeithio am heulwen - ac os felly, defnyddiwch eli haul ac yfwch ddigon o ddŵr. Maen nhw wedi ymrwymo i leihau gwastraff plastig a bydd tair gorsaf ail-lenwi poteli dŵr am ddim yn y digwyddiad.

Bydd dau fan cymorth cyntaf, gyda phersonél Ambiwlans Sant Ioan yno. Bydd un yn y Ganolfan Ddinesig ac un ar y prom ger y Senotaff. Bydd aelodau o Ambiwlans Sant Ioan yn patrolio'r safle drwy gydol y ddau ddiwrnod. Bydd stiwardiaid hefyd ar gael i helpu.

Dangoswch eich cefnogaeth ar gyfer noddwyr a chefnogwyr y digwyddiad

  • Mae DS Automobiles yn FRF Motors Abertawe - yn cefnogi ymddangosiad y Red Arrows.
  • GWR - Partner teithio Sioe Awyr Cymru
  • First Cymru - Partner teithio Sioe Awyr Cymru
  • John Pye Auctions - Cefnogwr Sioe Awyr Cymru
  • Sinclair Group - Cefnogwr Sioe Awyr Cymru
  • Coleg Gŵyr Abertawe - Noddwr pabell fawr Sioe Awyr Cymru
  • Gwerthwyr Tai Dawsons - Noddwr bandiau arddwrn ar gyfer plant sydd ar goll