Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Myfyrwyr safon uwch yn dathlu canlyniadau arbennig

Mae myfyrwyr safon uwch Abertawe'n dathlu heddiw ar ôl derbyn canlyniadau gwych.

A-levels (Bishop Vaughan School 2025)

A-levels (Bishop Vaughan School 2025)

Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol (graddau A* i E) o 98.0% yn debyg i 97.5% ar gyfer Cymru gyfan.

Mae canlyniadau Abertawe ar gyfer 2025 yn wych, gyda 32.8% yn cyflawni graddau A*-A (29.5% yng Nghymru). 

Ar y cyfan, roedd 81.8% o'r graddau yn raddau C neu uwch yn Abertawe.


Roedd bron i 600 o bobl ifanc o'r saith ysgol yn Abertawe sydd â  chweched dosbarth yn aros i gael gwybod sut gwnaethant gyda'u canlyniadau sy'n hanfodol ar gyfer eu dyheadau o fynd ymlaen i'r brifysgol neu i addysg neu hyfforddiant arall.


Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Mae ein holl fyfyrwyr safon uwch yn haeddu llongyfarchiadau enfawr ar gyfer eu cyflawniadau eleni, a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonynt yn edrych yn ôl ar eu hamser yn ein hysgolion yn Abertawe gydag anwyldeb.

"Wrth gwrs ni fyddai eu llwyddiannau wedi bod yn bosib heb waith caled a chefnogaeth ein hysgolion a'n hathrawon, yn ogystal â theuluoedd y myfyrwyr, felly hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant heddiw."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Awst 2025