Toglo gwelededd dewislen symudol

Staff y gwasanaeth archifau yn paratoi i symud i'r Storfa

Mae staff Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn paratoi i symud miloedd o ddogfennau treftadaeth gwerthfawr i'w cartref newydd yn Y Storfa.

Archives Staff

Archives Staff

Bydd cyfleuster pwrpasol yn y ganolfan gymunedol newydd yng nghanol y ddinas  yn sicrhau dyfodol casgliadau archifol cyfoethog y rhanbarth, a bydd yn parhau i sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at yr archifau.

Bydd y gwaith symud yn cynnwys adleoli tua 21,700 o flychau o ddogfennau a bron 20,700 o ffotograffau a sleidiau.

Yn Y Storfa, bydd y casgliad yn cael ei storio'n ofalus ar silffoedd diogel sy'n ymestyn dros 4km, sef y pellter o'r Ganolfan Ddinesig i Blackpill.

Mae'r archif yn wasanaeth a gynigir gan Gynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Elliot King, "Mae symud i'r Storfa yn garreg filltir bwysig i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

"Mae'n gyfnod hynod gyffrous i'r tîm yno ac i bawb sy'n gwerthfawrogi ein hanes lleol.

"Bydd Y Storfa'n darparu cyfleusterau storio ac ymchwil o'r radd flaenaf, gan sicrhau bod ein casgliadau, o siarter sefydlu Mynachlog Nedd ym 1130 i'r gofrestr etholiadol ddiweddaraf, yn cael eu cadw a'u bod yn hygyrch ar gyfer cenedlaethau i ddod."

Bydd yr archif yn cael ei symud fesul cam a bydd y gwasanaeth yn parhau i weithredu drwy'r amser.

Ym mis Tachwedd, bydd cynnwys yr ystafell ymchwil sy'n hygyrch i'r cyhoedd yn cael ei baratoi'n ofalus er mwyn ei symud o'r Ganolfan Ddinesig i'r Storfa.

Bydd gwasanaeth ystafell ymchwil yn parhau yn y Ganolfan Ddinesig tan y diwrnod y bydd Y Storfa'n agor, a fydd yn cynnwys ystafell ymchwil fwy. Bydd mynediad llawn at y dogfennau o ddechrau'r flwyddyn nesaf, unwaith y bydd y gwaith trosglwyddo i'r Storfa wedi'i gwblhau.

Bydd archifau newydd Y Storfa'n cynnig llawer o fuddion, gan gynnwys ystafelloedd diogel modern wedi'u hadeiladu yn unol â'r safonau cadwraeth cyfredol a mannau a rennir gyda phartneriaid fel Llyfrgell Ganolog Abertawe a Llyfrgell Glowyr De Cymru.

Bydd Y Storfa'n galluogi cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio, arddangosfeydd a gweithdai hanes lleol.

Meddai'r Cyng. King, "Mae'r tîm wedi gwneud gwaith gwych yn cynllunio'r gwaith symud cymhleth hwn.

"Er y gallai fod rhai newidiadau dros dro i sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu, mae'r manteision hirdymor yn glir - mwy o le, gwell mynediad a sylfaen gryfach ar gyfer dathlu ein treftadaeth a rennir."

Disgwylir i'r Storfa agor cyn y Nadolig yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen. Bydd yn gartref i nifer o wasanaethau hygyrch i'r cyhoedd a reolir gan y cyngor ac eraill.

Llun: Staff Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn paratoi ar gyfer symud i'r Storfa.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Hydref 2025