Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynhadledd i amlygu cyfleoedd yn yr economi werdd ranbarthol

Cynhelir cynhadledd fawr yr wythnos nesaf i ddathlu'r bobl, y prosiectau a'r partneriaethau sy'n gweithio i greu economi wyrddach a mwy gwydn yn ne-orllewin Cymru.

Arena and marina

Arena and marina

Trefnir Cynhadledd yr Economi Werdd 2025 gan 4theRegion ac fe'i cynhelir yn Arena Swansea Building Society ddydd Iau 13 Tachwedd o 9.30am i 5pm.

Noddir y digwyddiad eleni gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a bydd yn arddangos sut mae cydweithredu rhwng cymunedau, cynghorau a busnesau'n galluogi de-orllewin Cymru i arwain y ffordd wrth newid i'r economi werdd.

O ynni adnewyddadwy a mentrau sero net i fwyd cynaliadwy a busnesau lleol, bydd y diwrnod yn amlygu'r creadigrwydd a'r penderfyniad sy'n sbarduno de-orllewin Cymru.

Bydd diwrnod bwyd lleol pwrpasol yn rhan fawr o'r digwyddiad eleni, wedi'i drefnu gan Gyngor Abertawe, Bwyd Abertawe, Prifysgol Abertawe a rhaglen Cywain Bwyd a Diod Cymru.

Bydd yn cynnwys sesiynau blasu a sgyrsiau sy'n dathlu diwylliant bwyd bywiog y rhanbarth - o arloesi o'r fferm i'ch fforc i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol.

Bydd y rhaglen yn archwilio sut mae cynhyrchwyr bwyd, bwytai a manwerthwyr yn helpu i greu economi ranbarthol fwy cynaliadwy, lleihau allyriadau a chysylltu cymunedau.

Mae arddangosfa fawr hefyd yn rhan o'r digwyddiad, yn ogystal â gweithdai a phaneli sy'n canolbwyntio ar fuddsoddiad yn ne-orllewin Cymru, y Porthladd Rhydd Celtaidd, datgarboneiddio, adeiladu cynaliadwy, a swyddi a sgiliau gwyrdd.

Meddai Dawn Lyle, cyd-sylfaenydd 4theRegion: "Mae Cynhadledd yr Economi Werdd yn unigryw gan iddi ddod â'r cyhoedd, y colegau, y cynghorau a'r busnesau yn ein rhanbarth ynghyd - mae pawb yn barod i gydweithio.

"Mae de-orllewin Cymru'n meddu ar y creadigrwydd a'r cydweithrediad angenrheidiol i arwain y newid hwn, ac mae'r digwyddiad hwn yn dathlu'r uchelgais a rennir."

Mae Cynhadledd yr Economi Werdd yn ei thrydedd flwyddyn bellach ac mae'n un o'r cynulliadau mwyaf ysbrydoledig i unrhyw un sy'n frwd dros gynaliadwyedd a thwf rhanbarthol.

Daw yn sgîl y cynlluniau gweithredu ynni lleol sydd newydd eu datblygu ar gyfer Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

Mae'r cynlluniau hyn yn amlinellu sut gall ardaloedd lleol arwain y newid i ynni glanach a mwy gwydn - er lles yr amgylchedd a chymunedau lleol.

Meddai'r Cynghorydd Andrea Williams, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Cyngor Abertawe, "Mae'r gynhadledd hon yn dangos rhinweddau gorau de-orllewin Cymru - cymunedau, cynghorau a busnesau'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i wneud cynnydd go iawn wrth weithredu ar newid hinsawdd.

"Ni waeth ai cynllunio ynni lleol neu gynhyrchu bwyd cynaliadwy sydd dan sylw, rydym yn profi bod newid cadarnhaol yn dechrau yma."

Bydd tîm cymorth busnes Cyngor Abertawe ar gael ar y diwrnod i gynnig cymorth a chyngor i fusnesau. 

Ewch i'r dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu i archebu tocyn.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2025