Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mae'r Arena'n disgleirio yn y cyfnod cyn y Nadolig

Mae Arena Abertawe wedi bod yn disgleirio dros y diwrnodau diwethaf wrth i brofion goleuo cynnar barhau yn y lleoliad.

Arena sparkles x 2

Arena sparkles x 2

Mae dros 1,600 o baneli lliw aur bellach wedi cael eu gosod y tu allan i'r datblygiad, yn ogystal â 95,000 o oleuadau LED.

Bydd miloedd ar filoedd o fodurwyr, beicwyr a cherddwyr wedi sylwi ar y profion mwyaf diweddar, gyda miloedd o oleuadau gwyn disglair yn rhoi golwg Nadoligaidd i'r arena gyda'r hwyr, yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Cynhelir profion paratoadol pellach dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Bydd y profion yn helpu i benderfynu ar yr hyn sy'n gweithio orau ar ffasâd yr arena, er mwyn deall yn well sut gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Mae'r Arena'n un o nodweddion ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135 miliwn sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe, gyda'r rheolwyr datblygu RivingtonHark yn cynghori arni.

Disgwylir i'r gwaith i adeiladu cam un Bae Copr - a arweinir gan Buckingham Group Contracting Ltd - gael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni, gyda'r arena, a gaiff ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn agor ei drysau yn gynnar yn 2022.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r goleuadau disglair Nadoligaidd y mae llawer o bobl wedi'u gweld y tu allan i Arena Abertawe yn gynnar yn y nos yn arwydd o'r hyn sydd i ddod wrth i'r adeilad eiconig newydd hwn yn Abertawe ddechrau datblygu ymhellach, cyn cael ei gwblhau.

"Bydd profion goleuo pellach yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf, ac mae rhaglen o enwogion yr arena ar gyfer 2022 hefyd yn gwneud cynnydd da.

"Ond yn ogystal ag adloniant o'r radd flaenaf, mae'r arena ac ardal Bae Copr yn ei chyfanrwydd yn werth llawer mwy. Bydd yn cynhyrchu cannoedd o swyddi i bobl leol, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a'r gwariant yng nghanol ein dinas ac yn rhoi hwb o £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r goleuadau y tu allan i'r arena yn ein hardal Bae Copr newydd yn ategu popeth arall rydym yn ei wneud yn Abertawe i greu awyrgylch Nadoligaidd ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr â'r ddinas.

"Mae hyn yn cynnwys Gwledd y Gaeaf ar y Glannau - a gynhelir gan Sayers - yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa gerllaw a Marchnad y Nadolig yn cyrraedd canol y ddinas.

"Mae miloedd o oleuadau Nadolig sy'n newid lliw bellach i'w gweld mewn rhannau eraill o ganol y ddinas, ynghyd â dwy goeden Nadolig a bydd y panto'n dychwelyd i Theatr y Grand o 10 Rhagfyr tan 2 Ionawr."

Yn ogystal ag Arena Abertawe, mae ardal Bae Copr hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, y bont newydd dros Oystermouth Road, fflatiau newydd, mannau parcio ceir newydd a lleoedd newydd i fusnesau hamdden a lletygarwch.

Mae nodwedd arena'r datblygiad yn cael ei hariannu ar y cyd gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn, gyda'r bont yn cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith