Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobrau Chwaraeon Abertawe: Yr alwad olaf am enwebiadau!

​​​​​​​Mae arwyr chwaraeon cymunedol yn cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon diweddaraf Abertawe.

A previous sports awards

A previous sports awards

Maent yn amrywio o wirfoddolwyr a hyfforddwyr sy'n cyfrannu cannoedd o oriau y tu ôl i'r llenni i dimau llwyddiannus ac unigolion ymroddedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon. 

Mae'r gwobrau Chwaraeon yn dychwelyd ar ôl egwyl o dair blynedd - a bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn amgylchoedd crand Neuadd Brangwyn

Daw'r cyfle i enwebu i ben ar 31 Rhagfyr.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae enwebiadau wedi bod yn cyrraedd yn gyflym ers i ni gyhoeddi'r gwobrau fis diwethaf - a byddem wrth ein boddau'n clywed mwy am arwyr chwaraeon cymunedol." 

Mae'r gwobrau'n cydnabod unigolion, timau a chlybiau ar draws 13 categori.

Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe o 7pm ar 30 Mawrth yn Neuadd Brangwyn mewn cydweithrediad â Freedom Leisure. 

Rhagor o wybodaeth: croesobaeabertawe.com

Llun: Gwobr yn cael ei chyflwyno yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe yn y gorffennol.

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith