Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Llawer o hwyl am ddim ar gynnig yn Abertawe dros benwythnos Gŵyl y Banc

Mae amrywiaeth eang o hwyl gŵyl y banc ar gael y penwythnos hwn, diolch i atyniadau a gweithgareddau Cyngor Abertawe.

dinosaur singleton park creature

Mae llawer o'r gweithgareddau am ddim neu ar gael am gost isel, gan helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am i bobl ar draws y ddinas gael amser gwych y penwythnos hwn.

"Mae'r atyniadau rydym yn eu rhedeg a'u rheoli'n amrywio o draethau tywodlyd, eang i leoliadau diwylliannol o safon, ac o atyniadau awyr agored poblogaidd tu hwnt fel golff gwallgof, i atyniadau am ddim gwych fel Lido Blackpill.

"Mae'r amrywiaeth o gyfleusterau am ddim ac am gost isel sydd ar gynnig yn rhan o'n hymrwymiad cyffredinol i gefnogi lles a mwynhad pobl Abertawe ar adeg pan fo arian yn brin."

Mae parciau a thraethau a reolir gan y cyngor yn ddewis gwych ar gyfer picnic os yw'r haul yn tywynnu.

Gallwch fynd ar bedalo siâp alarch neu ddraig o gwmpas Llyn Cychod Singleton, ymweld â dinosoriaid y parc neu roi cynnig ar golff gwallgof yn y parc neu yng Ngerddi Southend.

Mae gan Lido Blackpill ar lan y môr barc dŵr awyr agored sy'n cynnwys pwll padlo ynghyd â lawntiau ac ardal chwarae.

Mae Castell Ystumllwynarth yn bwriadu cynnal Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau ddydd Llun(sylwer: 25 Awst) a fydd yn cynnwys cymeriadau lliwgar, cerddoriaeth ac adrodd straeon.

Mae gwasanaeth bysus am ddim y Cyngor yn cael ei gynnal tan ddydd Llun(sylwer: 25 Awst), felly gallwch deithio ar fws i unrhyw le yn Abertawe am ddim.

Mae lleoliadau diwylliannol a llyfrgelloedd uchel eu parch y cyngor yn parhau i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau am ddim.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau am ddim a gefnogir gan grantiau gan y cyngor yma: COAST - Calendr digwyddiadau i blant a phobl ifanc - Abertawe

Gallwch fwynhau Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am ddim.

Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Awst 2025