Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Benthyciadau Canol Trefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cronfa benthyciadau gwerth £2,000,000 i ni i'w gweinyddu fel rhan o'r cynllun Benthyciadau Canol Trefi.

Mae canol dinas Abertawe a chanol tref Treforys ymysg yr ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun.

Town centre loan - Swansea city centre boundary map (PDF) [1MB]
Cronfa Benthyciadau Canol Trefi - map ffiniau (Treforys) (PDF) [1MB]

Cynigir y cyllid ad-daladwy i berchnogion neu berchnogion posib eiddo at ddiben lleihau nifer y safleoedd a'r mangreoedd sy'n wag, sydd heb eu defnyddio'n ddigonol neu sy'n ddiangen yng nghanol trefi er mwyn cefnogi arallgyfeirio drwy annog defnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer safleoedd a mangreoedd gwag, megis dibenion preswyl, hamdden a gwasanaethau allweddol. Gellir defnyddio'r cyllid ad-daladwy ar gyfer y canlynol:

  1. Caffael a datgloi safleoedd a mangreoedd gyda'r bwriad o gyflwyno a gwerthu cynnig ar y farchnad agored o fewn amserlen gytunedig; 
  2. Datblygu neu adnewyddu safleoedd a mangreoedd o fewn amserlen gytunedig; a   
  3. Darparu benthyciadau i drydydd partïon i'w had-dalu o fewn amserlen gytunedig. 

Rhaid i geisiadau am fenthyciadau i adnewyddu eiddo presennol gynnwys gwaith cynhwysfawr. Ni fydd gwaith i adnewyddu neu wella blaenau siopau, arwyddion, ffenestri presennol, etc, ar ei ben ei hun yn gymwys am gyllid.

Gellir gwneud ceisiadau am y benthyciadau di-log am hyd at uchafswm o £1,000,000 dros gyfnod o hyd at 5 mlynedd. Mae gan yr awdurdod yr hyblygrwydd i gynnig ad-daliadau fesul cam neu i gytuno i ad-daliad untro ar ddiwedd cyfnod y benthyciad. Codir ffi weinyddol i dalu am gostau sy'n gysylltiedig ag asesu, prosesu a gweinyddu'r benthyciadau. 

Mae'r broses o gyflwyno cais yn cynnwys dau gam. Cam 1 yw ffurflen mynegiant o ddiddordeb (EOI) (link to form) a cham 2 yw'r cais llawn. Yn dilyn adolygiad ar y cam EOI, gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gwblhau a chyflwyno cais llawn. Mae arweiniad ar gyfer cam 2, sef y ffurflen gais lawn, yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael cyn bo hir. 

Ymgymerir â phroses diwydrwydd dyladwy gadarn i sicrhau yr ystyrir yr holl wybodaeth berthnasol am yr ymgeisydd a'r cynnig, a fydd yn cynnwys asesu risg credyd ac a yw'r cynnig yn gymwys ac yn ddichonadwy. 

Hefyd, bydd angen gosod tâl cyfreithiol ar eiddo neu dir y mae'r ymgeisydd yn berchen arno sydd gyfwerth â gwerth y benthyciad cymeradwy ar ôl dilysu ecwiti cyn i'r benthyciad gael ei roi. Gellir ystyried gwarantau personol hefyd. Mae rheolau cymorth gwladwriaethol yn berthnasol a bydd gofyn i'r awdurdod ddangos y cydymffurfir â hwy. 

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yr ystyrir derbynwyr grantiau eiddo HAS neu PEDG ar gyfer y gronfa benthyciadau. 

Gellir cael mwy o wybodaeth a chyflwyno ffurflenni cais drwy e-bostio busnes@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith