Disgwyl i gynllun 'adeilad byw' Abertawe gael ei gwblhau erbyn diwedd yr haf
Mae disgwyl i 'adeilad byw' newydd pwysig yng nghanol dinas Abertawe gael ei gwblhau erbyn diwedd yr haf.


Mae'r fideo hwn a ffilmiwyd gan Calan Films ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos y cynnydd sylweddol sy'n cael ei wneud ar y safle yn hen adeilad Woolworths lle mae tŵr newydd gydag 13 llawr hefyd yn cael ei adeiladu.
Mae'r cynllun, sy'n cael ei gwblhau rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin, yn cael ei arwain gan Hacer Developments.
Bydd yn cynnwys nodweddion fel:
- Tŷ gwydr arddull trefol wedi'i osod ar draws pedwar llawr
- Cyfleuster addysg sy'n cynnwys system acwaponeg
- Gerddi to, borderi blodau gwyllt a mannau gwyrdd
- Naw llawr o fflatiau i'w rheoli gan grŵp Pobl
- Bron 32,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol i fusnesau
- Manwerthu
- Iard wedi'i thirlunio
- To biosolar gyda system dolen gaeëdig eang a systemau draenio cynaliadwy
Ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau bydd lle yno i hyd at 500 o bobl, diolch i'r swyddi a'r cartrefi y bydd yn eu creu. Caiff ei bweru gan ynni solar a system wres ffynhonnell aer.
Mae'r cynllun yn un enghraifft o raglen adfywio gwerth dros £1 biliwn sy'n trawsnewid canol dinas Abertawe. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys y cynllun swyddfeydd gerllaw yn 71/72 Ffordd y Brenin sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Meddai Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, "Dyma gyfnod digynsail i ganol dinas Abertawe gyda chymaint o gyllid yn cael ei fuddsoddi gan y cyngor a'r sector preifat.
"Mae hyn yn bwysig oherwydd bod angen i fwy o bobl fyw a gweithio yng nghanol dinasoedd er mwyn creu'r niferoedd y mae eu hangen i gefnogi busnesau yng nghanol y ddinas, ac i annog mwy o siopau a busnesau eraill i agor yn y dyfodol.
"Mae ein cynllun yn bwriadu creu ffordd newydd o weithio a byw trefol - un sy'n cysylltu preswylwyr a gweithwyr â natur. Profwyd bod hyn o fudd i iechyd a hapusrwydd.
"Bydd yr adeilad hefyd yn cael ei bweru mewn ffordd adnewyddadwy a fydd yn helpu i leihau ôl troed carbon Abertawe a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd."
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae gwaith gwerth £1 biliwn i drawsnewid Abertawe'n datblygu'n gyflym er mwyn creu mwy o swyddi i bobl leol, cefnogi busnesau lleol a chodi proffil Abertawe ar draws y DU a thu hwnt ar gyfer buddsoddiad.
"Mae Arena Abertawe wedi'i chwblhau, mae adeilad Theatr y Palace wedi ailagor, mae Neuadd Albert wedi cael ei thrawsnewid a bydd datblygiad swyddfeydd 71/72 Ffordd y Brenin yn agor cyn bo hir gyda nifer o denantiaid eisoes wedi'u cadarnhau ar gyfer yr adeilad a thrafodaethau manwl gyda nifer o denantiaid eraill yn parhau.
"Mae'n newyddion gwych y bydd y cynllun 'adeilad byw' arloesol, blaengar a arweinir gan Hacer Developments yn dilyn yr un drefn erbyn diwedd yr haf.
"Disgwylir i'n canolfan gwasanaethau cymunedol newydd, Y Storfa, yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn hefyd, a bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir i drawsnewid Sgwâr y Castell yn gyrchfan gwyrddach yng nghanol y ddinas."
Ariennir yr 'adeilad byw' drwy gymysgedd o gyllid y sector preifat a chyllid gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, Pobl a Banc Datblygu Cymru.