Toglo gwelededd dewislen symudol

'Gallwn fod yn falch o'n canol dinas sy'n dod i'r amlwg' - arweinwyr busnes Abertawe

Mae'r gwaith cyfredol mawr i adfywio canol dinas Abertawe yn argoeli'n dda am ddyfodol disglair, yn ôl arweinwyr busnes.

Swansea at night

Swansea at night

Dywedodd Juliet Luporini a Russell Greenslade, o Ranbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe fod niferoedd y prosiectau sydd naill ai wedi'u cwblhau, yn mynd rhagddynt neu wedi'u cynllunio, yn rhoi hyder i fusnesau, siopwyr a buddsoddwyr lleol.

Mae datblygiad cam un Bae Copr sy'n werth £135m ymysg y rheini sy'n cael eu harwain gan Gyngor Abertawe Mae'r ardal newydd, y disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei orffen erbyn yr hydref hwn, yn cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, parc arfordirol 1,1 erw, cartrefi newydd, lleoedd parcio a lle i fusnesau lletygarwch.

Mae'r gwaith i drawsnewid Wind Street yn gyrchfan mwy addas i'r teulu hefyd yn gwneud cynnydd, a hynny'n dilyn y gwaith i drawsnewid Ffordd y Brenin yn amgylchedd llawer mwy gwyrdd a phleserus i breswylwyr a busnesau.

Mae cynlluniau'n barod hefyd ar gyfer Sgwâr y Castell gwyrddach.

Meddai Juliet, Cadeirydd BID Abertawe, "Mae datblygiad Bae Copr, trawsnewidiad Ffordd y Brenin, datblygiad llety newydd i fyfyrwyr a'r gwelliannau i Wind Street i gyd yn dystiolaeth weladwy, amlwg o ddyfodol disglair Abertawe.

"Mae'r prosiectau hyn yn dangos lefel ddigynsail o fuddsoddiad yng nghanol ein dinas ac maent yn rhoi hyder i fuddsoddwyr, defnyddwyr a busnesau.

"Gwyddwn fod busnesau yn ein hardal BID yn gwneud eu gorau glas dros eu cwmnïau a chanol eu dinas ar yr adeg anodd hon, ond mae'n amlwg bod Cyngor Abertawe a'i bartneriaid datblygu'n gwneud mwy na chyfaddawdu'n unig â nhw. "Mae hyn yn amser da i fod yn rhan o ganol dinas Abertawe."

Meddai Russell, Prif Weithredwr BID Abertawe, "Mae gweld y gwaith i adfywio canol dinas Abertawe'n symud yn ei flaen ac yn gwneud cynnydd mewn ffordd mor gyflym a hyderus wedi rhoi gwir obaith i fusnesau canol dinas Abertawe fod gan canol ein dinas ddyfodol disglair o'i flaen, er gwaethaf yr amserau anodd rydym yn dod drwyddynt.

"Dylid llongyfarch Cyngor Abertawe a'i bartneriaid am fwrw ymlaen â'r datblygiadau hyn yn ystod yr amser tyngedfennol hwn i bob tref a chanol dinas.

"Mae pob busnes ym Mhrydain yn gweithredu mewn cyfnod sy'n newid yn gyflym ac mae'r holl randdeiliaid, gan gynnwys BID Abertawe, yn gweithio'n galed i ymateb i'r heriau hyn gyda chynllun cadarn a chyda golwg ar yr hyn y mae angen i ganol ein dinasoedd ei gynnig yn y dyfodol, nid yr hyn yr oedd ar ddefnyddwyr a buddsoddwyr ei eisiau yn y gorffennol.

"Rwy'n meddwl y gallwn fod yn falch iawn o'r canol dinas sy'n dod i'r amlwg."

Mae prosiectau eraill a fydd yn dechrau'n fuan ar safleoedd yng nghanol dinas Abertawe'n cynnwys adeiladu datblygiad swyddfeydd uwch-dechnoleg yn 71/72 Ffordd y Brenin a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi.

Bwriedir rhoi cynllun dros dro ar waith hefyd ar safle canolfan siopa Dewi Sant, wrth aros iddo gael ei adfywio yn y tymor hwy. Bydd y cynllun dros dro yn cynnwys parc dros do ac chynwysyddion bwyd a diod i fusnesau newydd lleol.

 

Close Dewis iaith