Cynllun Datblygu Lleol 2 - Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Caiff y CDLl2 ei lywio gan yr Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) i sicrhau yr asesir effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y CDLl2.
Mae gofyniad statudol i Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) fod yn destun Arfarniad Cynaladwyedd (AC). Dylai'r Arfarniad Cynaladwyedd ymgorffori gofynion y Rheoliadau Arfarniad Cynaladwyedd Strategol (ACS); asesiad o'r CDLl2 newydd ar yr iaith Gymraeg; ac Asesiad Effaith Iechyd. Felly, fe'i hadwaenir yn gyffredin fel Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI).
Rôl yr ACI yw asesu'r ffordd y bydd polisïau a chynigion datblygol y CDLl2 yn helpu i gyflawni'r amcanion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach.
Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI) o'r Cynllun Cyn Adneuo - Strategaeth a Ffefrir
Mae'r adroddiad ACI o'r Cynllun Cyn Adneuo - Strategaeth a Ffefrir - yn cynnwys asesiad o Weledigaeth, Amcanion a'r opsiynau ar gyfer yr opsiynau twf strategol a dulliau gofodol. Mae'n darparu asesiad a rhesymu ar gyfer y Strategaeth Creu Lleoedd a ddewiswyd a'r polisïau strategol a nodwyd. Mae'r adroddiad yn ymgorffori Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg, Asesiad Effaith Cydraddoldeb ac ystyriaeth o Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ac mae ar gael yn y porth ymgynghori. Mae crynodeb annhechnegol (PDF, 2 MB) o'r ACI ar gael hefyd. Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad 8 wythnos ar yr Strategaeth a Ffefrir - CDLl2 (Rhagfyr 2024) (PDF, 11 MB) rhwng 24 Chwefror a 18 Ebrill 2025.
Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaladwyedd
Cam cyntaf yr ACI yw'r cam 'cwmpasu'. Mae'n gam casglu tystiolaeth, pan adolygir cynlluniau, rhaglenni, strategaethau a pholisïau sy'n berthnasol i baratoi'r CDLl2 er mwyn nodi sylfaen dystiolaeth o les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, iechyd a diwylliannol presennol y sir. Cyflwynir materion arwyddocaol yn yr ardal sy'n berthnasol i'r system cynllunio defnydd tir. Mae'r Adroddiad Cwmpasu (PDF, 1 MB) terfynol hefyd yn cynnwys y Fframwaith ACI. Mae yn cynnwys amcanion/meini prawf sy'n cael eu defnyddio wrth asesu strategaeth, polisïau a chynigion CDLl2.
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) o'r Cynllun Cyn Adneuo - Strategaeth a Ffefrir
Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (Cymru a Lloegr) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 yn nodi'r angen i'r cyngor gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) (gan gynnwys Asesiad Priodol os oes angen) o'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl2).
Pwrpas yr ARhC yw canfod a fydd y CDLl2 yn cael unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar gyfanrwydd safleoedd bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol sy'n rhan o Rwydwaith Safleoedd Cenedlaethol y DU, yn benodol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) (y'u hadwaenid yn flaenorol fel safleoedd Naura 200), ac, fel mater o bolisi'r Llywodraeth, safleoedd Ramsar, naill ai ar wahân, neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill, ac i roi cyngor ar fecanweithiau polisi priodol ar gyfer darparu mesurau lliniaru lle caiff effeithiau o'r fath eu nodi.
Cafodd proses sgrinio'r Asesiad Sgrinio Rheoliadau Cynefinoedd o'r Cynllun Cyn Adneuo (Strategaeth a Ffefrir) ei chyhoeddi fel rhan o ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir CDLl2 (24 Chwefror ac 18 Ebrill 2025) ac mae ar gael i'w gweld ar y porth ymgynghori. Mae crynodeb annhechnegol (PDF, 158 KB) o'r ddogfen ar gael hefyd.